Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwestiynau cyffredin

 

Prentisiaeth yw lle rydych chi'n astudio cymhwyster perthnasol wrth weithio ac ennill cyflog.

Mae lefelau'r Prentisiaethau fel a ganlyn:

Enw'r Brentisiaeth Lefel

Lefel addysgol gyfatebol

Prentisiaeth Sylfaen NVQ Lefel 2

5 TGAU A – D

Prentisiaeth NVQ Lefel 3 2 Safon A A-D
Prentisiaethau Uwch NVQ Lefel 4 neu 5

HNC, HND neu radd sylfaen neu uwch

Prentisiaeth Gradd NVQ Lefel 6 Cyfuniad o astudio rhan-amser yn y brifysgol neu'r Coleg i ennill gradd Baglor tra'n gweithio

Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth cyn belled â'ch bod yn 16+.

Oherwydd meini prawf y fframwaith Prentisiaethau, mae'n golygu na ellir derbyn ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch h.y. os oes prentisiaeth mewn Dysgu a Datblygu, yna nid ydych yn gymwys i wneud cais os oes gennych radd mewn Dysgu a Datblygu. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am swydd brentisiaeth arall.

Gallwch gyflwyno mwy nag un cais am unrhyw un o'n swyddi prentisiaeth wag.

Mae Prentisiaethau CBSMT yn cynnig contract cyfnod penodol dwy flynedd. Ochr yn ochr â hyn byddwch yn astudio eich cymhwyster a all bara hyd at y ddwy flynedd lawn. Mae hyn yn cael ei redeg ar y cyd â'n partneriaethau allanol gyda Cholegau fel Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot neu ddarparwyr hyfforddiant fel ALS Training a ACT Training.

Mae'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer Prentisiaethau yn dibynnu ar eich oedran.

https://www.gov.uk/cyfraddau-isafswm-cyflog-cenedlaethol


Prentisiaethau ac Anabledd

Mae CBSMT wedi ymrwymo i ddarparu addasiadau rhesymol i'w holl staff a phreswylwyr lle bo hynny'n bosibl. Byddwn yn ymdrechu i gefnogi ein prentisiaid i sicrhau eu bod yn gallu cwblhau a llwyddo ar eu llwybrau Prentisiaeth.