Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwirfoddoli

Gweithio gyda'r Sector Gwirfoddol

Mae mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau a darparu adnoddau i gymunedau lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) wedi ymrwymo i ddatblygu partneriaethau gwaith da gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol ledled y fwrdeistref i ategu a gwneud y mwyaf o effaith gwaith y sector gwirfoddol.

Mae Compact Lleol Merthyr Tudful â'r Sector Gwirfoddol yn fframwaith sy'n nodi'r bartneriaeth rhwng CBSMTC a'r sector gwirfoddol.

Mae CBSMT yn gweithio'n agos â Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT) ar lefelau strategol a gweithredol i ddatblygu gwaith effeithiol a fydd â manteision hirdymor i'r sector gwirfoddol a chymunedau yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol Merthyr Tudful yn goruchwylio'r broses hon ac mae ganddo gyfrifoldeb penodol dros gymeradwyo grantiau i fudiadau gwirfoddol o Gronfa Datblygu Merthyr Tudful. Mae'r berthynas â'r sector gwirfoddol yn cael ei rheoli gan y tîm Cyllid Allanol ac Ewropeaidd yn CBSMT.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch, cysylltwch â ni ar human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk

Compact Lleol Merthyr Tudful gyda'r Sector Gwirfoddol

Mae'r Compact Lleol yn ddogfen fframwaith sy'n nodi sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) yn gweithio â grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol. Fel rhan o'r Compact, mae Pwyllgor Cyswllt Merthyr Tudful wedi'i sefydlu rhwng CBSMT a'r Sector Gwirfoddol.

Mae'r Compact yn dangos sut mae CBSMT a'r Sector Gwirfoddol wedi ymrwymo i barhau i weithio mewn partneriaeth, nodau ac amcanion a rennir a chyd-ddealltwriaeth i wella ansawdd bywyd pobl y Fwrdeistref Sirol.

Cysylltwch â Ni