Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwneud Cais am Brofiad Gwaith
Er mwyn ymgeisio am leoliad, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais ar-lein. Rydym yn argymell eich bod yn trin y cais fel y byddech yn trin cais am swydd, a’i gwblhau i’r safon orau gallwch.
Dylech fod yn ymwybodol, oherwydd galw, na allwn warantu y byddwn yn gallu cynnig lleoliad i chi.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y lleoliadau neu’r broses ymgeisio yna cysylltwch profiadgwaith@merthyr.gov.uk.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae Cyngor Merthyr Tudful yn ymroddedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle, ac mae’n croesawu ceisiadau am brofiad gwaith oddi wrth bob rhan o’r gymuned.
Anelwn at ymateb i’r holl ymgeiswyr ymhen tair wythnos, a gwnawn ein gorau i gynnig lleoliad i chi er nad yw hynny’n bendant.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn sgwrs anffurfiol dros y ffôn fel ein bod ni’n gallu darganfod rhagor amdanoch chi i sicrhau fod unrhyw leoliad yn cael ei deilwra i’ch anghenion a’ch diddordebau.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut fydd y Cyngor yn cadw eich gwybodaeth bersonol mewn Hysbysiadau Preifatrwydd.