Ar-lein, Mae'n arbed amser
Profiad Gwaith gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ydych chi'n awyddus i gael profiad gwerthfawr ac archwilio llwybrau gyrfa cyffrous? Ydych chi'n chwilfrydig am yr amrywiaeth eang o wasanaethau y mae'r Cyngor yn eu cynnig? Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol?
Os felly, gallai lleoliad profiad gwaith gyda'r Cyngor fod yn gyfle perffaith i chi!
Mae'r Cyngor yn cynnig lleoliadau profiad gwaith i unrhyw un dros 14 oed mewn amrywiaeth o feysydd. Os ydych chi'n fyfyriwr ysgol, coleg neu brifysgol, yn edrych i fynd yn ôl i'r gwaith, neu'n ystyried newid gyrfa, mae profiad gwaith yn gyfle i gael mewnwelediad i'r cyfleoedd yn y Cyngor.
Manteision Lleoliad gyda Chyngor Merthyr Tudful i chi:
- Ennill Profiad: Profi maes o ddiddordeb neu fentro i rywbeth hollol newydd.
- Gwella eich CV: Gwella eich siawns o lwyddo wrth ymgeisio am swyddi.
- Adeiladu Sgiliau a Hyder: Hogi'ch sgiliau, ehangu eich gwybodaeth, a chynyddu eich hyder.
- Dysgu am y Cyngor: Edrychwch y tu ôl i'r llenni ar y sector cyhoeddus.
- Rhwydwaith: Cysylltu â phobl newydd ac adeiladu perthnasoedd proffesiynol gwerthfawr.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni:
Lleoliadau wedi'u teilwra: lleoliad sy'n addas i'ch anghenion a'ch diddordebau.
Cyfleoedd Dysgu: Deall sut mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau i bobl leol.
Profiad Gwerthfawr: Cymysgedd o gysgodi a phrofiad ymarferol.
Amgylchedd Cefnogol: awyrgylch ddiogel ac anogol.
I archwilio cyfleoedd profiad gwaith cyfredol o fewn y Cyngor, gweler Ein Lleoliadau
Nodwch fod profiad gwaith yn ddi-dâl.