Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hyderus o Ran Anabledd
Beth yw’r cynllun?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnal Cynllun Hyderus o Ran Anabledd, sy’n cynnig cyfweliad i nifer teg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.
Nid yw hwn yn golygu bod gan bob person anabl yr hawl i gyfweliad. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y safon ofynnol sy’n berthnasol ar gyfer swydd fel y diffinnir hynny gan y cyflogwr (er enghraifft, weithiau dengys hyn fel sgiliau hanfodol).
Bwriad yr ymrwymiad hwn yw annog gweithredoedd cadarnhaol, drwy ysgogi pobl anabl i geisio am swyddi a darparu cyfle iddynt ddangos eu sgiliau, eu talentau a’r hyn maent yn gallu ei wneud yn ystod y cyfnod cyfweld.
A ydw i’n gymwys?
Er mwyn bod yn gymwys i gael eich ystyried ar gyfer cyfweliad yn unol â’r cynllun hwn mae’n rhaid bod gennych:
- Anabledd corfforol neu feddyliol, neu gyflwr iechyd hirdymor a chanddo effaith sylweddol a hirdymor (dros ddeuddeg mis) negyddol ar eich gallu i ymwneud â gweithgareddau beunyddiol arferol.
- Y gallu i ddangos drwy eich ffurflen gais ac yn ystod y cyfnodau prawf eich bod yn cyrraedd y meini prawf gofynnol a ddisgrifir yn yr hysbyseb neu fanyleb y person ar gyfer y swydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynllun Hyderus o Ran Anabledd yn y fan hon:
https://www.gov.uk/guidance/disability-confident-how-to-sign-up-to-the-employer-scheme.cy