Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyflogaeth a chynlluniau hyfforddi ar gyfer Pobl anabl

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful rydym yn cydnabod ac yn cefnogi hawliau pob unigolyn, heb os am nam nag anabledd, i hawliau, mynediad a chyfle cyfartal i gyflogaeth a hyfforddiant fel sydd gan bob unigolyn arall ym Merthyr Tudful.

Rydym yn cydnabod fodd bynnag y gall rhai unigolion â nam ag anabledd elwa ar gefnogaeth ychwanegol mewn meysydd cyflogaeth a hyfforddiant ac rydym wedi datblygu’r prosiectau canlynol i gefnogi’r unigolion hyn.

Mae’r prosiectau canlynol ar gael i unigolion ag anabledd dysgu trwy Raglen Cyfleoedd yn y Dydd y Gwasanaethau Cymunedol:

Coleg Merthyr Tudful

Mae’r Awdurdod Lleol yn comisiynu darpariaeth arwahanol i unigolion ag anableddau dysgu mwy cymhleth. Gall unigolion gael mynediad at y prosiect hwn am ddwy flynedd.

ASDAN

Mae’r Awdurdod Lleol yn gweithredu ASDAN dau gam sy'n anelu at datblygu sgiliau bywyd a meddwl sy’n galluogi unigolion i weithio tuag at annibyniaeth yn y dyfodol.

Gwasanaethau Dydd

Cynllun garddio lle mae unigolion yn dysgu sgiliau angenrheidiol i gamu i gyfleoedd gwaith llai dibynnol h.y. Elite a MTIB.

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau uchod a sut i gael mynediad atynt, cysylltwch â’n Swyddog Dyletswydd ar 01685 724500.

Mae’r prosiectau canlynol ar gael trwy Wasanaethau Adfywio Cymdeithasol y Gwasanaethau Cymunedol:

Prosiect Anabledd/Gweithiwr Allweddol Teuluoedd yn Gyntaf

Er y cydnabyddir bod darparwyr yn y farchnad sy’n arbenigo mewn ymdrin ag anabledd, pwyslais y prosiect hwn yw annog rhieni anabl i integreiddio ar y cam cyntaf posibl mewn addysg prif ffrwd, hyfforddiant a chyflogaeth. Rôl y Gweithiwr Allweddol fyddai cysylltu â darparwyr arbenigol, gweithwyr cymdeithasol a darparwyr prif ffrwd a chefnogi’r oedolyn i gael gwared ar y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan.

Nod y prosiect:

Codi lefel ymwybyddiaeth o fanteision dysgu parhaus a chyflogaeth.

  • Sefydlu o leiaf 6 lleoliad gwirfoddoli yn y gymuned i rieni ag anabledd.
  • Bydd yr oedolion sy’n cymryd rhan yn cyflawni o leiaf 6 chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
  • Bydd y gweithiwr allweddol yn rhoi cefnogaeth 1:1 i unigolion sy’n cymryd rhan yn y prosiect, gan ddefnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar y person; gan sicrhau bod y cyfleoedd a gynigir iddynt yn diwallu’u hanghenion ac yn bodloni’u dymuniadau a’u bod felly’n fwy tebygol o lwyddo yn y tymor hir.

Am ragor o wybodaeth am Brosiect Anabledd/Gweithiwr Allweddol Teuluoedd yn Gyntaf, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu (Anabledd) ar 01685 724699.

Pontydd i Waith

Mae’r prosiect Pontydd i Waith yn brosiect a ariannir gan gyllid Ewrop sy’n gweithio ar draws chwe ardal yn Ne Cymru - Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili. Nod y prosiect yw cefnogi pobl leol i ennill y sgiliau a’r hyder i’w helpu i symud i gyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect a’r gefnogaeth a’r cyfleoedd a ddarperir, cysylltwch â’r Tîm Pontydd i Waith ar 01685 727099.

Cysylltwch â Ni