Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hyb Cymunedol Cwpmpawd

Pwy ydym ni? A beth ydym ni’n wneud?

Mae Hyb Cymunedol Cwmpawd wedi’i leoli yn y Gurnos, Merthyr Tudful ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae’r Hyb yn darparu dysgu a chymorth i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn y DU, beth bynnag fo’ch amgylchiadau cyflogaeth. Gall ein hystod o hyfforddiant a chefnogaeth eich helpu i ddysgu rhywbeth newydd, gwneud ffrindiau newydd neu gynyddu eich sgiliau cysylltiedig â gwaith. Mae ein gweithdai, ein cyrsiau a’n digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnig ar wahanol ddyddiau ac amseroedd yn ystod yr wythnos. Mae pob cwrs, gweithdy a chefnogaeth am ddim.

Pa gyfleusterau sydd gan Hyb Cymunedol Cwmpawd i’w gynnig?

  • Gweithdai Adeiladu (gan gynnwys gwaith coed, plymio, gosod brics a phlastro)
  • Ystafell Hyfforddi Sgiliau Manwerthu
  • Salon Hyfforddi Gwallt a Harddwch
  • Ystafell TGCh
  • Ystafelloedd Cynadledda/Hyfforddiant
  • Ystafell Serameg/Celf

Pa gefnogaeth all Hyb Cymunedol Cwmpawd ei gynnig?

  • Cymwysterau a hyfforddiant achrededig cysylltiedig â gwaith
  • Cefnogaeth unigol un i un i oresgyn rhwystrau yn y gwaith
  • Cefnogaeth cyflogaeth i gynyddu oriau gwaith / newid gyrfa
  • Cefnogaeth iechyd a lles
  • Cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith
  • Dosbarthiadau dysgu oedolion mewn amrywiaeth o bynciau

Gweithdai Adeiladu

P'un a ydych chi'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu neu eisiau dysgu'r pethau sylfaenol, ein gweithdai cwbl weithredol yw'r lle i ddechrau. Mae gan ein tiwtoriaid gyfoeth o wybodaeth mewn gwaith coed, gosod brics, plymio a theilsio lle gallwch ennill cymwysterau gweithle lefel mynediad i symud ymlaen ymhellach neu DIY sylfaenol er eich budd eich hun o gwmpas y tŷ. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a pharatoi i gael eich cerdyn CSCS, gan weithio ar gyflymder unigol sy'n gyfleus i chi.

Ystafell Hyfforddiant Sgiliau Manwerthu

Mae ein hystafell hyfforddi sgiliau manwerthu yn gyfle gwych i ennill profiad a pharatoi ar gyfer rôl manwerthu neu letygarwch. Rydym yn cynnig cymwysterau mewn Manwerthu yn y Gweithle a Gwasanaeth Cwsmeriaid, felly p’un a ydych am loywi eich sgiliau manwerthu neu weld ai dyna’r dewis gyrfa i chi drwy ennill profiad – gall Hyb Cymunedol Cwmpawd eich helpu.

Salon Gwallt a Harddwch

Yn Hyb Cymunedol Cwmpawd, mae ein hystafell  gwallt a harddwch yn rhoi’r profiad salon i chi wella’r sgiliau presennol neu weld ai dyma’r newid gyrfa i chi. Rydym yn cynnig cymwysterau mewn cynorthwyo harddwr neu steilydd gwallt i’ch galluogi i gychwyn ar eich taith yn y sector Gwallt a Harddwch. Gallwch hefyd ennill cymwysterau proffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd fel cwyr a lliw aeliau, estyniadau blew'r amrannau, technoleg ewinedd a thyllu'r corff.

Ystafell TGCh

Mae gennym ystafell TGCh bwrpasol sy'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau i gynnwys dechreuwyr llwyr i gymwysterau lefel 2 proffesiynol. Mae ein gweithdai TG hefyd yn cynnig cyrsiau byr a all eich galluogi i uwchsgilio. Mae'r rhain yn cynnwys diogelwch ar-lein, defnyddio Teams, Excel a Microsoft Office. Mae'r dysgu'n hyblyg ac mae cyrsiau'n cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos gan gynnwys gyda'r nos.

Gweithdy Cerameg / Celf

Mae gan ein cyfleuster cerameg a chelf cymunedol unigryw olwynion crochenwyr ac ystafell odyn i'ch galluogi i ddysgu amrywiaeth o dechnegau i greu eitemau o glai. Mae ein dosbarthiadau celf a chrefft yn cynnwys gwnïo, gwneud gemwaith a chrefft cyffredinol. Mae’n gyfle gwych i ddod draw i ddechrau hobi newydd, ystyried gyrfa newydd, gwneud ffrindiau newydd neu wella’ch lles.

Ystafelloedd Hyfforddi/Cynadledda

Yn Hyb Cymunedol Cwmpawd, mae gennym ddwy ystafell gynadledda/hyfforddi ar gael i’w llogi. Felly os ydych yn chwilio am leoliad cymunedol i gynnal hyfforddiant neu gyfarfodydd, holwch nawr.

Hyfforddiant Pwrpasol

Mae ein pecynnau hyfforddi wedi’u llunio i weddu i’ch anghenion ac rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant penodol i waith megis:

  • Cymorth Cyntaf
  • Diogelu
  • Codi a Chario
  • Diogelwch a Hylendid Bwyd
  • Iechyd a Diogelwch yn yr Amgylchedd Adeiladu a Cherdyn CSCS
  • Hyfforddiant SIA
  • Hyfforddiant Dymper / Roller
  • Iechyd a diogelwch yn y gwaith
  • COSHH
  • Hylendid Bwyd lefel 2

Cefnogaeth “Mewn Gwaith” 

Mae gan Hyb Cymunedol Cwmpawd fentoriaid dynodedig i’ch hyfforddi a’ch cefnogi i anelu at eich nod gyrfa. P'un a ydych yn bwriadu dechrau eich busnes eich hun, trosglwyddo i gyflogaeth amser llawn, mynd i addysg amser llawn neu weithio tuag at eich swydd ddelfrydol, gallwn helpu. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'ch cefnogi gyda rhwystrau y gallech fod yn eu hwynebu i'ch helpu i ragori mewn gwaith.

Lleoliad Gwaith a Gwirfoddoli

Yn Hyb Cymunedol Cwmpawd, rydym yn cysylltu â chyflogwyr ac elusennau lleol i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith gyda’r nod o ymestyn eich CV, gwella eich profiad a’ch symud yn nes at eich nodau gyrfa.

Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith wedi’u teilwra i anghenion a phwrpas unigol, gyda Swyddog Dilyniant yn eich arwain a’ch cefnogi drwy’r holl broses a’r profiad.

Manylion cyswllt

Rhif Ffȏn: 01685 727099

E-bostl: compass.communityhub@merthyr.gov.uk

Facebook: Compass Community Hub

Instagram: compasscommunity.hub

X: CompassComHub

Cyfeiriad: 17-20 Penydre, Gurnos, Merthyr Tudful, CF47 9DY

partners logos

Cysylltwch â Ni