Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb newydd yn y sector cyhoeddus (y 'ddyletswydd gyffredinol'), gan ddisodli'r dyletswyddau ar wahân ar gydraddoldeb hil, anabledd a rhyw. Daeth hyn i rym ar 5 Ebrill 2011.

Mae'r ddyletswydd gyffredinol newydd yn cynnwys y nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • Oed
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil - gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
  • Crefydd neu gred - gan gynnwys diffyg cred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Mae'n berthnasol i briodas a phartneriaeth sifil, ond dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch o gyflwyno ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2020-2024. Pwrpas y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw gwella cyfleoedd cyfartal o fewn ein cymuned o ran darparu gwasanaethau, cyflogaeth, comisiynu, arweinyddiaeth a gweithio mewn partneriaeth.

Mae'r gweithgareddau yng Nghynllun Gweithredu y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn dangos yn glir ein hymrwymiad cryf i ddileu pob math o wahaniaethu a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda rhwng pobl sy'n ymweld, byw a gweithio ym Merthyr Tudful.

Fel Cyngor, mae gennym ddyletswydd i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anfantais a'u herio fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel rhag aflonyddu a bod gan bawb fynediad at wasanaethau o ansawdd uchel. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y canlyniadau cadarnhaol i bobl ym Merthyr Tudful a bod ein gwasanaethau'n hygyrch ac yn cael eu darparu'n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae’n Gweledigaeth Cydraddoldeb ar gyfer Merthyr Tudful yn "fan lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi a'i pharchu a gall pawb gymryd rhan, ffynnu a chael cyfle i gyflawni eu potensial yn rhydd o wahaniaethu a rhagfarn."

Bydd y Cyngor yn gweithio tuag at gyflawni'r Weledigaeth hon drwy’n rôl fel arweinydd cymunedol, darparwr gwasanaeth, comisiynydd a chyflogwr a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i leihau anghydraddoldebau a gwella lles y Fwrdeistref Sirol.

Bydd y Cyngor yn defnyddio ei rôl arwain i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a rhannu syniadau ac arfer da gyda phartneriaid a darparwyr gwasanaethau eraill. Byddwn yn parhau i fireinio a datblygu ein gwasanaethau, gan gynnwys systemau monitro priodol, i'n helpu i gael gwell dealltwriaeth o'n staff a'r cymunedau lleol ehangach a'n galluogi i ddiwallu anghenion amrywiol pawb.

Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol (31 Mawrth 2021)

Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn gosod cyfrifoldeb ar y Cyngor i ystyried ('rhoi sylw dyledus') i sut y gallwn leihau anghydraddoldebau canlyniad a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.

Mae'r ddyletswydd yn rhoi cyfle i ni wneud pethau'n wahanol a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyn gwneud penderfyniadau allweddol. Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau gwell canlyniadau i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.

Bydd y ddyletswydd yn fecanwaith allweddol wrth gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a bydd yn hynod bwysig pan fyddwn yn adfer o'r argyfwng presennol.

Cynllun Cyfweliad Gwarantedig

Yma yng Nghyngor Merthyr Tudful, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grŵp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd a mynegiant a beichiogrwydd a mamolaeth.

Hyderus o ran anabledd

Ers 2018, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi bod yn Gyflogwr Hyderus ac Ymroddedig i Bobl Anabl – un o'r 18,000 o gyflogwyr ledled y DU i ymuno â'r cynllun. Rydym yn helpu i chwarae rôl flaenllaw wrth newid agweddau er gwell trwy wneud cyfleoedd o fewn y Cyngor yn fwy hygyrch i bawb.

Trwy Anabledd Hyderus, mae miloedd o gyflogwyr yn helpu i:

  • Herio agweddau tuag at anabledd
  • Cynyddu dealltwriaeth o anabledd
  • Dileu rhwystrau i bobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor
  • sicrhau bod pobl anabl yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful bellach wedi cyflawni'r statws uchaf fel Arweinydd Hyderus i Anabledd. Rydym yn parhau â'n gwaith i helpu i newid agweddau, ymddygiadau a diwylliant yn gadarnhaol i hyrwyddo cydraddoldeb fel yr amlinellir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyfredol a'n Strategaeth Sefydliad Iach. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo ac ymgymryd â chamau craidd ar gyfer darparu cyfleoedd i bobl anabl fel y gallant gyflawni eu potensial a chyrraedd eu dyheadau.

Os hoffech ddarganfod mwy am gynllun Hyderus i'r Anabl, ewch i https://disabilityconfident.campaign.gov.uk/