Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb newydd yn y sector cyhoeddus (y 'ddyletswydd gyffredinol'), gan ddisodli'r dyletswyddau ar wahân ar gydraddoldeb hil, anabledd a rhyw. Daeth hyn i rym ar 5 Ebrill 2011.
Mae'r ddyletswydd gyffredinol newydd yn cynnwys y nodweddion gwarchodedig canlynol:
- Oed
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil - gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
- Crefydd neu gred - gan gynnwys diffyg cred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol
Mae'n berthnasol i briodas a phartneriaeth sifil, ond dim ond mewn perthynas â'r gofyniad i roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch o gyflwyno ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2020-2024. Pwrpas y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw gwella cyfleoedd cyfartal o fewn ein cymuned o ran darparu gwasanaethau, cyflogaeth, comisiynu, arweinyddiaeth a gweithio mewn partneriaeth.
Mae'r gweithgareddau yng Nghynllun Gweithredu y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn dangos yn glir ein hymrwymiad cryf i ddileu pob math o wahaniaethu a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda rhwng pobl sy'n ymweld, byw a gweithio ym Merthyr Tudful.
Fel Cyngor, mae gennym ddyletswydd i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anfantais a'u herio fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel rhag aflonyddu a bod gan bawb fynediad at wasanaethau o ansawdd uchel. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y canlyniadau cadarnhaol i bobl ym Merthyr Tudful a bod ein gwasanaethau'n hygyrch ac yn cael eu darparu'n effeithiol ac yn effeithlon.
Mae’n Gweledigaeth Cydraddoldeb ar gyfer Merthyr Tudful yn "fan lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi a'i pharchu a gall pawb gymryd rhan, ffynnu a chael cyfle i gyflawni eu potensial yn rhydd o wahaniaethu a rhagfarn."
Bydd y Cyngor yn gweithio tuag at gyflawni'r Weledigaeth hon drwy’n rôl fel arweinydd cymunedol, darparwr gwasanaeth, comisiynydd a chyflogwr a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i leihau anghydraddoldebau a gwella lles y Fwrdeistref Sirol.
Bydd y Cyngor yn defnyddio ei rôl arwain i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a rhannu syniadau ac arfer da gyda phartneriaid a darparwyr gwasanaethau eraill. Byddwn yn parhau i fireinio a datblygu ein gwasanaethau, gan gynnwys systemau monitro priodol, i'n helpu i gael gwell dealltwriaeth o'n staff a'r cymunedau lleol ehangach a'n galluogi i ddiwallu anghenion amrywiol pawb.
Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol (31 Mawrth 2021)
Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn gosod cyfrifoldeb ar y Cyngor i ystyried ('rhoi sylw dyledus') i sut y gallwn leihau anghydraddoldebau canlyniad a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol.
Mae'r ddyletswydd yn rhoi cyfle i ni wneud pethau'n wahanol a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyn gwneud penderfyniadau allweddol. Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau gwell canlyniadau i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Bydd y ddyletswydd yn fecanwaith allweddol wrth gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a bydd yn hynod bwysig pan fyddwn yn adfer o'r argyfwng presennol.
Cynllun Cyfweliad Gwarantedig
Yma yng Nghyngor Merthyr Tudful, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grŵp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd a mynegiant a beichiogrwydd a mamolaeth.
Hyderus o ran anabledd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i'r addewid Hyderus o ran Anabledd - un o'r 18,000 o gyflogwyr ar draws y DU i gefnogi'r cynllun pwysig hwn. Rydym bellach wedi cyflawni statws Lefel 2 o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd sy'n sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymgymryd â chamau craidd ar gyfer pobl anabl a darparu cyfleoedd fel y gallant gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Os hoffech gael gwybod mwy am Anabledd Hyderus, ewch i https://disabilityconfident.campaign.gov.uk/
Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd rydym yn mynd ati i hyrwyddo ein hymrwymiad. Fel rhan o hyn, bydd unrhyw ymgeisydd sy'n uniaethu ag anabledd ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol hanfodol yn cael cynnig cyfweliad gwarantedig. Bydd ein tîm Recriwtio yn cysylltu â chi a gofynnir i chi cyn mynychu cyfweliad os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch er mwyn cyfranogi.