Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Prif Beiriannydd Strwythurau Siartredig
Cyfeirnod y swydd: RE-1815
Cyflog: £55,580.00 - I: £57,745.00
Graddfa Swydd: Gradd 11 / Grade 11
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Gweithio Hyblyg – Cartref ac Uned 5 / Agile Working – Home & Unit 5
Arbenigol:
Arwain a rheoli tîm o staff proffesiynol i sicrhau darparu gwasanaethau effeithiol o'r adran Strwythurau yn unol â pholisïau'r Cyngor, deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion contractiol.
Gweithredu fel swyddog arweiniol ar gyfer yr holl faterion sy'n gysylltiedig â strwythurol i'r awdurdod. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli a darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd mewn perthynas ag arolygiadau strwythurol, asesiadau, monitro a chynnal asedau'r Cyngor fel pontydd, waliau cynnal, isffyrdd i gerddwyr, domenni glo segur a 4 cronfa ddwr.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Carwyn Morris ar 01685 725000 neu ebostiwch Carwyn.Morris@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 14.10.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.