Ar-lein, Mae'n arbed amser
Fetio staff contract a chyflenwyr
Staff Addysg
Cyflawnir nifer o wiriadau cyn cyflogaeth hanfodol cyn i weithiwr ddechrau ei ddyletswyddau yn ei swydd newydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol
- Holiadur Meddygol
Mae’n hanfodol bod y gwiriadau hyn yn digwydd cyn dechrau’r dyletswyddau. Mae hefyd yn angenrheidiol bod yr holl ffurflenni cais yn darparu enwau a chyfeiriadau dau ganolwr a manylion unrhyw gymwysterau perthnasol. Mae rhoi contractau cyflogaeth yn amodol ar gyflawni’r uchod yn foddhaol.
Cedwir cofrestr o ‘Athrawon Cyflenwi’ i ddarparu gwasanaeth cyflenwi mewn ysgolion Meithrin a Chynradd. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais i fod ar y gofrestr gysylltu â’r Cynorthwydd Clerigol penodedig ar 01685 725199 am becyn ymgeisio.
Mae angen y gwiriadau cyn cyflogaeth uchod unwaith eto, fodd bynnag bydd angen i’r ymgeisydd dalu am ei wiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol ei hun.
Nodwch nad oes darpariaeth am drosglwyddo gwiriadau CRB. Bydd angen gwiriad newydd hyd yn oed os oes gan yr ymgeisydd CRB a gyflawnwyd gan sefydliad neu Awdurdod Lleol arall.