Ar-lein, Mae'n arbed amser
Amdanom ni
Mae Merthyr Tudful, un o ranbarthau mwyaf diddorol a hardd Cymru yn hanesyddol, mewn lleoliad delfrydol rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phrifddinas Cymru Caerdydd.
Mae Cyngor Merthyr Tudful yn cyflogi tua 2,500 o staff gan gynnwys ein Hysgolion. Mae gennym swyddfeydd yn y Ganolfan Ddinesig, Uned 5 ac Uned 20 ac rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i breswylwyr Bwrdeistref Merthyr Tudful sy'n cynnwys:
- Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant
- Addysg a Lles Cymunedol
- Gwasanaethau Rheoleiddiol e.e. Iechyd yr Amgylchedd, Cynllunio, Safonau Masnach a Thrwyddedu
- Gwasanaethau i Gwsmeriaid e.e. Treth y Cyngor, Refeniw, Budd-daliadau ac Atebion Tai
- Adfywio e.e. Datblygiad Economaidd, Cyflogadwyedd, Adfywio Corfforol
- Gwasanaethau Corfforaethol e.e., TG, Adnoddau Dynol, Newid Busnes, Cyfrifeg a Gwasanaethau Democrataidd
Mae gennym 5 cyfarwyddwr sy'n cynnwys:
- Addysg
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Llywodraethu ac Adnoddau
- Gwasanaethau Cymdogaeth
- Yr Economi ac Amddiffyn y Cyhoedd
Gair gan y Prif Weithredwr Ellis Cooper
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn lle gwych i weithio. Rwyf wedi gweithio i'r Cyngor ers 2002 gan ymuno yn wreiddiol fel Swyddog Datblygu E-Lywodraeth ac rwyf wedi cael y pleser o weithio ochr yn ochr â rhai o'r cydweithwyr mwyaf ymroddedig a gweithgar yn fy amser yma. Yma ym Merthyr, rydym yn hynod angerddol am ddarparu gwasanaethau i'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu a phreswylwyr Merthyr Tudful. Yn sicr, ni allem gyflawni popeth sydd gennym heb ein gweithlu.
Rydym yn deall pa mor bwysig yw cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a pha mor annatod yw parhau i ddysgu a datblygu wrth weithio mewn swydd. Mae gennym bolisïau cyfeillgar i deuluoedd i'ch cefnogi, cyfleoedd i ddatblygu eich perfformiad drwy hyfforddiant, prentisiaethau a chynlluniau mentora, a llawer o fanteision staff, gan gynnwys Pensiwn CPLlL, mynediad at Iechyd Galwedigaethol ar y safle a'n Cynllun Gwobrau Merthyr Tudful. Rydym yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl fel y gallwn ddod yn gyflogwr o'ch dewis."