Ar-lein, Mae'n arbed amser
Lleoli mewn ysgolion prif ffrwd
Mae gan blant sydd ag AAY neu anableddau anawsterau dysgu sydd yn gwneud dysgu’n anoddach iddynt, o’i gymharu â mwyafrif y plant eu hoed. Gallai’r plant yma fod angen cymorth ychwanegol neu wahanol i’r hyn y mae plant eraill eu hoed yn eu derbyn.
Gall plant sydd ag AAY fod angen cymorth ychwanegol o ganlyniad i ystod eang o anghenion o ran:
- meddwl a deall, anawsterau corfforol neu synhwyraidd
- anawsterau emosiynol ac ymddygiadol
- anawsterau iaith a lleferydd
- sut y maent yn ymgysylltu ac yn ymddwyn ag eraill.
Bydd llawer o blant yn derbyn rhyw fath o AAY, rhyw bryd yn ystod eu haddysg.
Gall ysgolion a gwasanaethau eraill gynorthwyo’r mwyafrif o blant i oresgyn eu hanawsterau ond bydd rhai disgyblion angen cymorth ychwanegol am gyfran neu am yr holl amser y byddant yn yr ysgol.
Dynodi anghenion plant
Mae lleoliadau addysg gynnar ac ysgolion yn rhoi cryn bwyslais ar ddynodi anghenion addysgol ychwanegol yn gynnar fel y gallant gynorthwyo plant mor gynnar â phosib.
Mae’r dull graddedig hwn o weithio yn cydnabod fod plant yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol a bod gwahanol fathau a lefelau o AAY. Os penderfynwyd fod gan eich plentyn AAY, gellir cael cymorth arbenigol ar gyfer y plentyn yn yr ysgol.
Bydd yr ysgol yn eich hysbysu o hyn. Efallai bydd angen cymorth am gyfnod byr ar eich plentyn, efallai am holl gyfnod ei addysg.
Mae athro’ch plentyn yn gyfrifol am weithio gyda’ch plentyn o ddydd i ddydd ond galla benderfynu, gyda’ch mewnbwn chi i ysgrifennu’r camau sydd eu hangen i gynorthwyo’ch plentyn mewn Cynllun Datblygu Unigol (CDU.)
Bydd y CDU yn nodi:
- pa gymorth arbenigol gellir cael ei roi
- pa mor aml fydd eich plentyn yn derbyn cymorth
- pwy fydd yn darparu’r cymorth
- beth yw’r targedau ar gyfer eich plentyn
- sut a phryd fyd datblygiad eich plentyn yn cael ei wirio
- pa gymorth y gallwch chi ei roi i’ch plentyn gartref.
Bydd athro’ch plentyn yn cytuno ar y CDU gyda chi a’ch plentyn.