Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cludiant i ddisgyblion ADY

Ni fydd gan lawer o ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY,) anabledd a/neu gyflwr meddygol sydd wedi cael diagnosis anghenion trafnidiaeth arbennig a’r un yw eu hawliau â disgyblion eraill sydd mewn ysgolion prif ffrwd. Yn yr achosion yma, dylid dilyn polisi trafnidiaeth gyffredinol yr ysgol. (Gweler adrannau 6-8 ac 11.)

Gall disgyblion sydd ag ADY, anabledd a/neu gyflwr meddygol sydd wedi cael diagnosis fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth, yn ddibynnol ar asesiad anghenion unigol a fydd yn cael ei weinyddu gan yr awdurdod lleol ar y cyd ag asiantaethau perthnasol eraill, gan gynnwys Iechyd.

Wrth ystyried os all disgybl gerdded i’w ysgol addas agosaf, ystyrir os yw’n rhesymol i ddisgwyl i oedolyn cyfrifol i gyd-gerdded gydag ef. Yr ‘ysgol addas agosaf’ yw’r ysgol agosaf yn ôl y pellter sy’n cwrdd ag anghenion y disgybl; yn unol â’r hyn a bennir gan yr awdurdod lleol a lle mae lle ar gael yno.

Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried os yw’r llwybr cerdded ddynodedig y disgwylir i ddisgyblion eu dilyn yn ‘addas’ h.y ei fod yn gymharol ddiogel. Bydd y drafnidiaeth benodol a ddarperir yn cael ei bennu gan yr awdurdod lleol, yn unol ag anghenion yr unigolyn yn ei asesiad.

Os bydd plentyn yn mynychu ysgol arall a ffafrir h.y nid yr ysgol addas agosaf yn ôl yr hyn a bennir gan yr awdurdod lleol, ond ysgol a ddewiswyd gan y rhiant/gofalwr; eu cyfrifoldeb hwy fydd mynd â’r plentyn i ac o’r ysgol.

Bydd pob trafnidiaeth ar gyfer disgyblion sydd ag ADY, anabledd a/neu gyflwr meddygol sydd wedi cael diagnosis yn destun adolygiad cyson a bydd cyfnod penodol yr arolwg yn cael ei bennu ym mhob achos gan yr awdurdod lleol ac mi fydd o leiaf, pob blwyddyn.

Cyfrifoldeb rhiant/gofalwr y disgybl yw hysbysu’r awdurdod lleol os oes unrhyw newid i anghenion a/neu gyflwr meddygol y disgybl fel y medrir adolygu’r anghenion trafnidiaeth yn gyson.

Dylid caniatáu pum diwrnod ysgol er mwyn dechrau neu newid trefniant trafnidiaeth ar gyfer disgybl sydd ag ADY, anabledd a/neu gyflwr meddygol, yn dilyn gwobrwyo trafnidiaeth gan yr awdurdod lleol.

Cysylltwch â Ni