Ar-lein, Mae'n arbed amser

Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

Mae pob plentyn yn unigolyn ac mae pob plentyn yn datblygu ac yn dysgu ar wahanol gyfraddau.

Mae rhai plant yn gweld dysgu'n hawdd, ac mae rhai'n ei chael hi'n anodd. Gyda'r gefnogaeth gywir mae pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun.

Mae hyn yn golygu y bydd angen gwahanol arddulliau addysgu o fewn ystafell ddosbarth, gan ystyried galluoedd, cryfderau, gwendidau a diddordebau'r plant.

Bydd y dulliau gwahanol hyn o ddysgu yn helpu'r rhan fwyaf o blant i wneud cynnydd. Fodd bynnag, efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth.

Anghenion Dysgu Ychwanegol, canllaw rhieni (youtube.com)

 

Cysylltwch â Ni