Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dysgu Oedolion yn y Gymuned Merthyr Tudful
Mae tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned CBSMT yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i oedolion 19 oed a throsodd ledled y Fwrdeistref. Ariennir y cyfleoedd hyn drwy Grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen amrywiol a diddorol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru ac yn ymateb i anghenion a diddordebau ein dysgwyr trwy ein dull "Dysgu Eich Ffordd". Ein nod yw darparu cyrsiau hygyrch o ansawdd uchel sy'n cynorthwyo unigolion i:
- Baratoi at gyflogaeth
- Gwella sgiliau bywyd hanfodol
- Llwyddo o fewn eu cymunedau
Rydyn ni yma i'ch annog a'ch cefnogi i greu’r fersiwn orau ohonoch chi'ch hun.
Beth rydyn ni'n ei gynnig
Mae cyrsiau'n cael eu cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol ac ar-lein, ac maent yn cynnwys opsiynau achrededig a heb eu hachredu:
Clybiau Sgiliau
Gwella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd mewn amgylchedd cefnogol. Rydym yn cynnig:
- Sesiynau i ddechreuwyr (Cyn mynediad a mynediad)
- Dysgu uwch (Lefelau 1 a 2)
Sgiliau Hanfodol
Datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith, gan gynnwys:
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol
- Sgiliau rhifedd a digidol/TG
- TG/ICDL – Tystysgrif Ryngwladol mewn Llythrennedd Digidol L2
Cyfwerth â TGAU
Ennill cymwysterau cydnabyddedig:
- Sgiliau Hanfodol – Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
- Sgiliau Hanfodol – Cyfathrebu (Lefel 2)
Gweithdai a Sesiynau Blasu
Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithdai a sesiynau blasu heb eu hachredu trwy gydol y flwyddyn. Dilynwch ni ar Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am sesiynau a digwyddiadau newydd.
Dysgu am ddim i oedran 16+
Mae ein Tîm Dysgu Cymunedol hefyd yn cynnig dosbarthiadau am ddim i unigolion 16 oed a hŷn, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol trwy ddysgu anffurfiol, achrededig a heb ei achredu.
Mae sesiynau ar gael ar draws Gogledd, Canolbarth a De y Fwrdeistref, gan gynnig dysgu hyblyg a hygyrch yn agos at adref.
Pam ein dewis ni?
Mae ein rhaglenni Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi'u cynllunio i wneud dysgu yn:
- Didddorol a phleserus
- Yn berthnasol i fywyd bob dydd
- Cefnogi eich nodau gyrfa
- Defnyddiol ar gyfer rheoli arian a meithrin hyder
Rydym yn falch i gael effaith gadarnhaol a pharhaol ar drigolion Merthyr Tudful.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gwrs, cysylltwch â ni:
E-bost:ACL@merthyr.gov.uk
Ffôn:01685 725000
Gwefannau: www.merthyr.gov.uk