Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dysgu Oedolion yn y Gymuned Merthyr Tudful

Merthyr Tydfil Adult Community Learning

Mae tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned CBSMT yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i oedolion 19 oed a throsodd ledled y Fwrdeistref. Ariennir y cyfleoedd hyn drwy Grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen amrywiol a diddorol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau sgiliau Llywodraeth Cymru ac yn ymateb i anghenion a diddordebau ein dysgwyr trwy ein  dull "Dysgu Eich Ffordd". Ein nod yw darparu cyrsiau hygyrch o ansawdd uchel sy'n cynorthwyo unigolion i:

  • Baratoi at gyflogaeth
  • Gwella sgiliau bywyd hanfodol
  • Llwyddo o fewn eu cymunedau

Rydyn ni yma i'ch annog a'ch cefnogi i greu’r fersiwn orau ohonoch chi'ch hun.

Beth rydyn ni'n ei gynnig

Mae cyrsiau'n cael eu cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol ac ar-lein, ac maent yn cynnwys opsiynau achrededig a heb eu hachredu:

Clybiau Sgiliau

Gwella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd mewn amgylchedd cefnogol. Rydym yn cynnig:

  • Sesiynau i ddechreuwyr (Cyn mynediad a mynediad)
  • Dysgu uwch (Lefelau 1 a 2)

Sgiliau Hanfodol

Datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith, gan gynnwys:

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol
  • Sgiliau rhifedd a digidol/TG
  • TG/ICDL – Tystysgrif Ryngwladol mewn Llythrennedd Digidol L2

Cyfwerth â TGAU

Ennill cymwysterau cydnabyddedig:

  • Sgiliau Hanfodol – Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
  • Sgiliau Hanfodol – Cyfathrebu (Lefel 2)

Gweithdai a Sesiynau Blasu

Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithdai a sesiynau blasu heb eu hachredu trwy gydol y flwyddyn. Dilynwch ni ar Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am sesiynau a digwyddiadau newydd.

Dysgu am ddim i oedran 16+

Mae ein Tîm Dysgu Cymunedol hefyd yn cynnig dosbarthiadau am ddim i unigolion 16 oed a hŷn, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol trwy ddysgu anffurfiol, achrededig a heb ei achredu.

Mae sesiynau ar gael ar draws Gogledd, Canolbarth a De y Fwrdeistref, gan gynnig dysgu hyblyg a hygyrch yn agos at adref.

Pam ein dewis ni?

Mae ein rhaglenni Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi'u cynllunio i wneud dysgu yn:

  • Didddorol a phleserus
  • Yn berthnasol i fywyd bob dydd
  • Cefnogi eich nodau gyrfa
  • Defnyddiol ar gyfer rheoli arian a meithrin hyder

Rydym yn falch i gael effaith gadarnhaol a pharhaol ar drigolion Merthyr Tudful.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gwrs, cysylltwch â ni:

E-bost:ACL@merthyr.gov.uk

Ffôn:01685 725000

Gwefannau: www.merthyr.gov.uk

Facebook: Dysgu Oedolion yn y Gymuned Merthyr Tudful