Ar-lein, Mae'n arbed amser
Partneriaeth Gyflogadwyedd
Mae’r Bartneriaeth Gyflogadwyedd wedi’i chydlynu gan yr Adran Adfywio Cymdeithasol Oedolion a Theuluoedd a’i nod yw cynorthwyo pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n llesol i’w hiechyd ac annog dysgu er mwyn cefnogi’r agenda cyflogaeth.
Beth yw Cyflogadwyedd?
Cyflogadwyedd yw’r cyfuniad o ffactorau a phrosesau sy’n galluogi pobl i wneud cynnydd tuag at gyflogaeth, i aros mewn cyflogaeth ac i symud ymlaen yn y gweithle.
Efallai y byddwch hefyd wedi clywed y term ‘Bod Heb Waith’ sy’n derm llai cyfarwydd na chyflogadwyedd/diweithdra i ddisgrifio’r rheini sy’n anactif yn economaidd. Pobl anactif yn economaidd yw’r rheini sydd o oedran gweithio ond nad ydynt yn gweithio, mewn addysg amser llawn neu hyfforddiant ac nad ydynt yn chwilio am waith.
Mae llawer o bobl ddi-waith yn wynebu rhwystrau llawer mwy nag eraill pan ddaw at gamu i’r byd gwaith a datblygu ynddo. Mae llawer y tu allan i’r farchnad lafur a gall achos hyn fod yn eithaf cymhleth yn aml. Mae rhai o’r rhwystrau hyn yn cynnwys yn nodweddiadol y rhesymau canlynol y mae angen i unigolion eu goresgyn cyn camu’n ôl i weithle:
- diffyg hyder a hunan-barch
- bylchau ar eu CV
- profiadau gwael o weithio
- diffyg geirdaon
- pryder uchel
- diffyg profiad gwaith diweddar
- stamina isel
- sgiliau cyflogadwyedd craidd wedi dyddio
- diffyg ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau cyflogwyr
- stigma o ran problemau iechyd meddwl
Efallai bod angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar rai unigolion i gael manteision gwaith y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Efallai bod eraill hefyd yn perthyn i grwpiau blaenoriaeth i gael cymorth trwy raglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys:
- rhieni sengl
- pobl ag anabledd
- pobl â phroblemau iechyd meddwl
- pobl ddi-waith hirdymor
- pobl ifanc sy’n gadael gofal
- cyn-droseddwyr
Beth sy’n cael ei Wneud yn Lleol i Ymdrin â Chyflogadwyedd?
Mae’n ddealltwriaeth gyffredin y gall dysgu a chyflogaeth agor y drws i safon bywyd gwell. Mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn bartneriaeth aml-asiantaeth sefydledig sydd wedi parhau i weithio ar y cyd a chyflawni ymrwymiad cadarn gan bartneriaid sy’n cefnogi pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n llesol i’w hiechyd, yn annog dysgu ac yn gweithio’n weithredol ar y cyd i gefnogi’r agenda cyflogaeth.
Dros y blynyddoedd rydym wedi ymgymryd â llawer o fentrau’n canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau i ddod o hyd i ddatrysiadau i faterion Cyflogadwyedd lleol, ac mae dealltwriaeth dda gennym o’r hyn sy’n gweithio.
Mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn ddiweddar wedi wynebu’i her fwyaf ers ei sefydlu gyda chyflwyniad Rhaglen Waith Diwygio Lles a’r newid sydd ar y gweill i fudd-daliadau Credyd Cyffredinol a fydd yn newid y ffordd o weinyddu cynllunio gwasanaethau’n sylweddol.
Mae’r grŵp yn parhau i weithio ar y cyd i wynebu’r heriau newydd hyn ac mae wedi esblygu i gynnwys dau brif gontractwr rhaglen waith i alluogi cynllunwyr gwasanaethau allweddol i gydweithio a monitro perfformiad i gefnogi’r amgylchedd newidiol hwn.
Beth mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn Gobeithio’i Gyflawni?
Prif darged y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yw gwella sgiliau gwaith preswylwyr (oedolion a phobl ifanc) a datblygu systemau gwell er mwyn iddynt ennill a chynnal cyflogaeth.
Pwy yw Partneriaid y Grŵp Llywio Cyflogadwyedd?
Mae’r Grŵp Llywio Cyflogadwyedd yn tynnu ynghyd partneriaid o amryw adrannau a sefydliadau sy’n ymrwymedig i weithio mewn partneriaid i gyflawni’r deilliannau gorau i unigolion:
- Adfywio Cymdeithasol Oedolion a Theuluoedd
- Pontydd i Waith
- Canolfan Byd Gwaith
- Gyrfa Cymru
- Rhwydwaith 14-19
- Canolfan Blant Integredig
- Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
- Gwasanaeth Cenedlaethol Iechyd y Cyhoedd
- Coleg Merthyr
- Cymdeithas Dai Merthyr Tudful
- Gwasanaethau Adfywio Cymdeithasol Ieuenctid a Theuluoedd
- Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G’s
- Cymorth Aml Ymyriad Teuluoedd yn Gyntaf
- Dysgu Teuluol a Chymunedol
- Adran Mynediad a Chynhwysiant Ysgolion
- Rehab/JobFit
- Working Links
- Adran Adfywio Economaidd
- Tydfil Training
- Merthyr Tydfil Institute for the Blind
- Prince’s Trust
- Learn About Us
- National Training Federation Wales
- Llamau
- Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
- Ground Work Trust
- Cartrefi Cymoedd Merthyr
- UHOVI
- Want 2 Work
- Merthyr Valley’s MIND
- Adfywio Cymdeithasol Blaenau Gwent
- Talk Training
Beth yw Nodau Allweddol y Cynllun?
Nodau allweddol y cynllun yw:
- Nod 1: Gwella dull cydweithredol yn y sector cyhoeddus, gwasanaethau’r sector preifat a’r trydydd sector i gynyddu gweithgarwch economaidd a mynd i’r afael â thlodi ym Merthyr Tudful
- Nod 2: Cefnogi pobl i ennill a chynnal cyflogaeth i oedolion a phobl ifanc
- Nod 3: Datblygu a gwella cyflogadwyedd oedolion a phobl ifanc, yn arbennig o ran sgiliau, cymwysterau a pharodrwydd i weithio.
- Nod 4: Cefnogi dull Tîm o amgylch y Busnes i leihau cystadleuaeth ddiwerth (ymgysylltiad cyflogwyr).
Sut Byddwn yn Mesur Perfformiad?
Caiff y cynllun Cyflogadwyedd ei fonitro trwy system Reoli Perfformiad Ffynnon Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn helpu i hysbysu’r cynnydd a gaiff ei wneud yn y dyfodol yn erbyn targedau er mwyn monitro cyflawniad yn effeithiol.