Ar-lein, Mae'n arbed amser

Presenoldeb

Cyngor i Rieni a Gofalwyr

Beth allwch chi’i wneud?

Gall rhieni a gofalwyr wneud llawer iawn i gefnogi presenoldeb rheolaidd a phrydlon eu plant yn yr ysgol:

  • Dechrau ffurfio arferion da yn gynnar (cyrraedd yr ysgol ar amser a chadw at reolau’r ysgol)
  • Dweud wrth yr ysgol ar y diwrnod cyntaf o unrhyw salwch neu absenoldeb a diwrnodau dilynol
  • Gwneud hi’n glir nad ydych yn cytuno â phresenoldeb isel, bod yn hwyr neu driwantiaeth/ sicrhau bod eu plant yn absennol am resymau awdurdodedig neu ddiwrnodau crefyddol yn unig
  • Anfon nodyn i esbonio absenoldeb bob tro
  • Osgoi trefnu gwyliau teulu yn ystod tymor ysgol lle bo’n bosibl
  • Mynd i nosweithiau rhieni a digwyddiadau eraill yn yr ysgol
  • Darllen yr holl lythyron y mae’u plant yn dod adref â nhw
  • Siarad â’r ysgol neu’r Gwasanaeth Lles Addysg ynghylch unrhyw broblemau neu anawsterau rydych yn eu cael
  • Cefnogi’r ysgol trwy annog ymddygiad da
  • Ymddiddori yng ngwaith ysgol a gwaith cartref y plentyn

Cofiwch: ni ellir adennill diwrnod a gollir!

Mae presenoldeb sy’n is nag 80% yn golygu bod eich plentyn ar gyfartaledd yn colli un diwrnod yr wythnos.

Os yw presenoldeb eich plentyn yn 80% am eu gyrfa ysgol uwchradd gyfan, byddant wedi colli blwyddyn gyfan o addysg erbyn iddynt adael yr ysgol.

Wyddoch chi?

Gall y Gwasanaeth Lles Addysg gynorthwyo a chefnogi rhieni a gofalwyr trwy:

  • Fynd i gyfarfodydd yn yr ysgol er mwyn helpu i ddatrys problemau sy’n achosi presenoldeb isel plant yn yr ysgol
  • Cysylltu ag asiantaethau eraill gan gynnig cefnogaeth a chymorth arbenigol i wella presenoldeb gan gynnig cyngor i rieni ar eu hymrwymiad cyfreithiol i sicrhau bod eu plant yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon
  • Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg hefyd yn cynnal mentrau mewn ysgolion i wella presenoldeb. Gall y rhain cynnwys: monitro hwyrni, gwirio triwantiaeth ar ôl cofrestru, patrolau triwantiaeth, cyfweliadau â rhieni/disgyblion, trafodaethau mewn gwasanaethau ac ati
cyfeiriwch at y llawlyfr presenoldeb isod

Erlyn Diffyg Presenoldeb

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol gan rieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant o oedran addysg orfodol yn cael addysg amser llawn. Mae rhieni fel arfer yn dewis cyflawni’r cyfrifoldeb hwn trwy gofrestru’u plant mewn ysgol, fodd bynnag mae rhai rhieni’n penderfynu addysgu’u plant gartref. (Addysg Gartref Ddewisol)

Os yw eu plentyn yn methu â mynychu’r ysgol maent wedi cofrestru ynddi’n rheolaidd, mae’r rhiant yn euog o drosedd dan Adran 444 Deddf Addysg 1996.

cyfeiriwch at lawlyfr yr erlyniad

Hysbysiadau Cosb Benodedig

Fel arall, o fis Ionawr 2015 mae dewis gan Awdurdodau Lleol, ar gais Penaethiaid, u ddefnyddio Hysbysiadau Cosb Benodedig o ran absenoldeb  a hwyrni diawdurdod a cymryd Gwyliau yn ystod y Tymor ysgol. Mae’r Hysbysiadau Cosb Benodedig yn broses amgen yn hytrach na’r broses erlyn trwy Lys yr Ynadon, ac mae’n arwain at ddirwy £120 i rieni/gofalwyr (a gaiff ei gostwng i £60 pe telir ymhen 28 diwrnod). Rydym wedi cynhyrchu arweiniad byr (isod) i Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer absenoldeb o’r Ysgol.

Salwch

Rydyn ni I gyd yn gwybod bod plant, weithiau, yn rhy sal I fynd I’r Ysgol. Mae pob Ysgol yn monitor presenoldeb ac yn cysylltu a’r rhieni pan fydd patrwm absenoldeb yn dob I’r amlwg.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol I chi’ ch hun:

  • Ydy’ch plenty yn ddigon iach I fynd allan I chwarae?
  • Ydy’ch plenty yn ddigon iach I wneud ei weithgareddau arferol yn yr Ysgol?
  • Ydy’ch plenty yn dioddef o gyflwr sy’n gallu cael ei drosglwyddo I blant eraill?
  • Pe baech chi’n dioddef o’r un cyflwr a’ch plenty, fyddech chi’n penderfynu peidio a mynd I’r

Peidiwch ag anghofio dweud wrth yr Ysgol.

Ceisiwch roi gwybod I’r Ysgol cyn 9.30am ar bod diwrnod mae eich plenty yn absennol o’r Ysgol oherwydd salwch.

OS ydy’ch plenty yn colli Ysgol yn aml oherwydd salwch, mae’n bosibl y bydd angen cadarnhad meddygol gan eich Meddyg Teulu ac/neu atgyfeiriad I’r gwasanaeth mynychu’r Ysgol a lles neu’r gwasanaeth lles addysg.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles Addysg ar 01685 724607 neu education.welfareteam@merthyr.gov.uk.

 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?