Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgolion Bro

Ym Merthyr Tudful, rydym am i bob cymuned ganolbwyntio ar ddysgu gan feddu ar gyflawniadau uchel.

Mae Ysgolion Bro yn dilyn dull tri chlwstwr o weithio ac rydym wedi’n lleoli yng Ngogledd, Canolbarth a De Merthyr gan weithredu ledled ysgolion cynradd ac uwchradd y fwrdeistref.

Mae Rheolwr Ysgolion Bro ymhob clwstwr yn ogystal â 2 Swyddog Teulu ac Ymgysylltu.

Rydym am i bob ysgol ym Merthyr Tudful fod yn Ysgol Fro:

  • Datblygu perthynas agos â theuluoedd
  • Ymateb i ofynion y gymuned
  • Cydweithio’n effeithiol â gwasanaethau eraill

Mae Ysgolion Bro yn ceisio cyflawni 3 ffrwd o ymgysylltiad:

  • Ymgysylltiad teuluol – Cydweithio’n agos â theuluoedd er mwyn creu’r amgylchedd dysgu gorau yn y cartref ar gyfer plant a phobl ifanc. Sicrhau fod gan deuluoedd y sgiliau, hyder a’r adnoddau i gefnogi addysg y plentyn yn y cartref. Cydweithio â theuluoedd er mwyn ymdrin ag unrhyw rwystrau ymgysylltu.
  • Ymgysylltiad cymunedol – Bod yn rhan allweddol o’r gymuned leol, cynnig cyfleoedd i ddefnyddio adnoddau’r ysgol ar gyfer dysgu oedolion, lles, chwarae, chwaraeon, diwylliant a digwyddiadau cymunedol eraill. Cyfeirio at wasanaethau cymorth a chyngor eraill. Defnyddio sgiliau a sefydliadau yn y gymuned i ehangu ac ymgyfoethogi cyfleoedd dysgu a dylanwadu’n gadarnhaol ar newid.
  • Ymgysylltiad aml-asiantaethol – Cydweithio’n effeithiol â gwasanaethau ac asiantaethau allweddol eraill er mwyn sicrhau fod plant yn ffynnu a dysgu. Rhannu gwybodaeth fel y gall plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gyrchu’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir. Cefnogi mynediad i wasanaethau ehangach allai fod wedi eu lleoli ar safle’r ysgol neu ar safle arall yn y gymuned.

E-bost: cfs@merthyr.gov.uk

Ffôn: 01685 725000

CFS

Cysylltwch â Ni