Ar-lein, Mae'n arbed amser
Datblygiad Iaith Gynnar
Mae cefnogi datblygiad ieithyddol a chyfathrebu plant yn greiddiol i brosiect Dechrau’n Deg.
Mae llawer o dystiolaeth yn dangos pwysigrwydd targedu a dynodi plant sydd yn cael problemau a hynny o oed cynnar. Mae ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd yn dangos fod y tair blynedd gyntaf o fywyd plentyn yn hollbwysig i ddatblygiad sgiliau iaith a chyfathrebu da.
Mae gan Dîm Datblygiad Iaith Gynnar Merthyr Tudful grwpiau sefydledig sydd yn rhoi cyfle i rannu ac ymgysylltu mewn chwarae ac sydd yn tynnu sylw at sgiliau iaith a chyfathrebu da. Mae’r grwpiau hyn yn caniatáu i blant allai fod yn profi anawsterau lleferydd a/neu iaith i gael eu dynodi cyn gynted ag y sydd yn bosibl gan sicrhau y gall y tîm ddarparu cymorth addas, yn gynnar.
Dewch o hyd i ni ar Facebook