Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llyfrgell Fenthyg Synhwyraidd

Mae gan Ganolfan Plant Integredig Pentrebach Lyfrgell Fenthyg Synhwyraidd sydd ar gael i’r cyhoedd ei defnyddio.

Mae’r Llyfrgell yn llawn nwyddau cyffrous a hwyliog i’w benthyg ar gyfer profiadau amlsynhwyraidd yn y cartref. Rydym yn cynnig cesys a chitiau ar themâu ar gyfer gweithgareddau amrywiol o gwmpas datblygu ac ysgogi synhwyraidd. Mae pob cês a chit wedi ei ddatblygu gyda chymorth Gweithwyr Chwarae, Seicolegwyr Addysgiadol a Therapyddion Galwedigaethol ac maen nhw’n addas i’w defnyddio yn y cartref, mewn ystafelloedd dosbarth neu grwpiau (grwpiau babi/ grwpiau cefnogi ac yn y blaen). Mae’r cesys wedi eu cynllunio gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn golwg ac maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o brofiadau cyffrous, yn cynnwys Cês Uwch Fioled, Cês Aflonydd, Cês Gweithgaredd Grŵp, Offerynnau Cerdd, Jenga Mawr a llawer mwy.

Cysylltwch â Ni