Ar-lein, Mae'n arbed amser

Addysg heblaw yn yr ysgol

Darperir tiwtora i gefnogi disgyblion o oedran ysgol statudol ar sail tymor byr nad ydynt yn gallu, oherwydd eu hanghenion meddygol, fynychu'r ysgol. Nid yw tiwtora yn ddewis  hirdymor i fynychu'r ysgol.

Mae disgyblion sy'n derbyn tiwtora yn parhau i gofrestru yn eu hysgol ac mae'r Gwasanaeth Dysgu yn gweithio'n agos gyda'r ysgol i sicrhau bod disgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol cyn gynted ag y bo'n briodol.

Mae angen tystiolaeth feddygol i gefnogi unrhyw geisiadau a wneir gan ysgolion am diwtora a gwneir penderfyniadau trwy banel dysgu bob pythefnos.

Mae'r ddarpariaeth o diwtora yn bodoli i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol tuag at ddisgyblion nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol am nifer o resymau ac mae'n gweithio i atal y disgyblion hynny yn syrthio ar ei hôl hi yn eu haddysg.

Mae’r gwasanaeth Tiwtora wedi'i leoli mewn swyddfeydd ym Mharc Busnes Triongl, Pentrebach.

Mae tiwtora yn wahanol i addysg gartref dewisol, a elwir hefyd yn addysg gartref, sef pan fydd rhieni yn tynnu eu plentyn o addysg brif ffrwd ac yn cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol ac ariannol am eu haddysg.

Cysylltwch â Ni