Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwricwlwm ysgol

Mae Cwricwlwm Cymru yn newid o fis Medi 2022 ymhob Ysgol Gynradd ac ym Mlwyddyn 7 mewn Ysgolion Uwchradd sydd wedi dewis dechrau ar y broses. Mae cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn ddechrau ar broses o newid a bydd ysgolion yn datblygu eu dulliau dysgu o fis Medi 2022. Y disgwyliad yw y bydd pob ysgol a lleoliad yn paratoi ar gyfer gweithrediad y cwricwlwm. Os na fydd ysgolion yn dechrau gweithredu’r cwricwlwm ar gyfer Blwyddyn 7 yn 2022, dylent fod yn paratoi ar gyfer gwneud hynny.

Erbyn 2023, bydd disgwyl fod pob ysgol a lleoliad wedi dechrau gweithredu’r cwricwlwm ar gyfer Blynyddoedd 7 ac 8.

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 wedi sefydlu Cwricwlwm Cymru yn gyfreithiol ac mae’n hepgor y cwricwlwm sylfaenol a nodwyd yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002. 

Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaethau o ran datblygiad ac asesiad y cwricwlwm ar gyfer plant 3 i 16 oed.

Y Cwricwlwm

Mae’n rhaid i’r cwricwlwm gael ei gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu pob dysgwr sydd rhwng 3 ac 16 oed.

Mae’n rhaid i’r cwricwlwm:

  • Alluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffyrdd y disgrifir yn y pedwar diben
  • Bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • Bod yn eang a chytbwys
  • Darparu ar gyfer dysgu ac addysgu sydd yn cwmpasu pob Maes gan gynnwys elfennau mandadol gan ymgorffori pob datganiad ar yr hyn sydd yn bwysig
  • Gwneud darpariaeth i ddatblygu sgiliau traws cwricwlaidd mandadol
  • Cydymffurfio â Chod APaRh (Addysg Perthnasau a Rhywioldeb) ac yn addas ar gyfer pob dysgwr
  • Darparu dysgwyr sydd ym mlwyddyn 1 ac uwch ag addysg a dysgu CGE (Crefydd, Gwerthoedd ac Egwyddorion) sydd yn cydymffurfio â Maes Llafur CGE Merthyr Tudful a gofynion cynllunio’r cwricwlwm  
  • Rhoi dewis dysgu oddi fewn i bob Maes i ddysgwyr sydd yn symud o flwyddyn 9 i 10
  • Darparu datblygiad addas sydd yn unol ag egwyddorion y Cod Datblygu. Mae’n rhaid i drefniadau asesu gael eu hysbysu gan egwyddorion datblygiad
  • Gwneud trefniadau ar gyfer asesu sydd yn cynorthwyo datblygiad y disgybl trwy gydol y flwyddyn ysgol
  • Gwneud trefniadau ar gyfer asesu, gallu a medrusrwydd dysgwyr yn y cwricwlwm perthnasol, wrth iddynt ddechrau yn yr ysgol neu’r lleoliad er mwyn dynodi’r camau nesaf yn eu datblygiad a’r dysgu a’r addysgu sydd eu hangen arnynt er mwyn cynorthwyo’r broses honno.

Y Pedwar Diben

Mae’r Cwricwlwm yn nodi pedwar diben a dyma’r man cychwyn ar gyfer proses gynllunio’r cwricwlwm ar gyfer pob ysgol. Bwriad cwricwlwm yr ysgol yw cynorthwyo dysgwyr i ddyfod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus a chreadigol sydd yn barod i gyfranogi’n llawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, cyhoeddus sydd yn barod i gyflanwi’n llawn fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas

Bydd pob un plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu i fod yn:

ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn: 

  • gosod safonau uchel i’w hunain ac sydd yn mwynhau her
  • datblygu corff o wybodaeth a’r sgiliau i ddefnyddio’r wybodaeth honno mewn nifer o gyd-destunau
  • cwestiynu a mwynhau datrys problemau
  • cyfathrebu’n effeithiol mewn nifer o wahanol ffyrdd a lleoliadau yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • esbonio’r syniadau a’r cysyniadau y maent yn dysgu amdanynt
  • defnyddio rhifau’n effeithiol, mewn nifer o wahanol gyd-destunau
  • deall sut i ddehongli data a defnyddio cysyniadau mathemategol
  • defnyddio technolegau digidol yn greadigol er mwyn cyfathrebu, canfod a dadansoddi gwybodaeth
  • ymchwilio a gwerthuso’n gritigol yr hyn y maent yn eu canfod

ac sydd yn barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau

cyfranwyr mentrus a chreadigol sydd yn:

cysylltu a defnyddio’u gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch

  • meddwl yn greadigol er mwyn datrys problemau
  • dynodi a choleddi cyfleoedd
  • cymryd risgiau mesuredig
  • arwain a chwarae rholiau tîm gwahanol yn effeithiol a chyfrifol
  • mynegi syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau gwahanol
  • rhoi o’u hegni a’u sgiliau a hynny er budd eraill

a pharod i gyfrannu’n llawn mewn bywyd a gwaith

dinasyddion egwyddorol a gwybodus sydd yn:

canfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth i ffurfio safbwyntiau

  • ymgysylltu â materion cyfoes a hynny’n seiliedig ar wybodaeth a gwerthoedd
  • deall ac ymarfer cyfrifoldebau a hawliau dynol a democrataidd
  • deall ac ystyried effaith gweithredoedd ar benderfyniadau ac ymddygiad
  • gwybodus ynghylch diwylliant, cymuned, cymdeithas a’r byd cyfoes a’r gorffennol
  • parchu anghenion a hawliau eraill fel rhan o gymdeithas amrywiol
  • dangos ymroddiad i gynaliadwyedd y blaned

a pharod i fod yn ddinasyddion o Gymru a’r byd

 unigolion iach, hyderus sydd yn:

  • meddu ar werthoedd diogel ac sydd yn dechrau sefydlu cred ysbrydol ac egwyddorol
  • datblygu eu llesiant meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi
  • defnyddio gwybodaeth ynghylch effaith diet ac ymarfer ar iechyd meddwl a chorfforol, o ddydd i ddydd
  • gwybod sut i ddod o hyd i wybodaeth a chymorth i aros yn ddiogel ac iach
  • cyfranogi mewn gweithgareddau corfforol
  • gwneud penderfyniadau mesuredig ynghylch dull o fyw a rheoli risg
  • meddu ar hyder i gyfranogi mewn perfformiad
  • ffurfio perthnasau cadarnhaol, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch
  • wynebu a goresgyn heriau
  • meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i reoli bywyd bob dydd a byw’n annibynnol

parod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae cwricwlwm yr ysgol yn amlinellu’r elfennau mandadol canlynol sydd yn cwmpasu continwwm dysgu 3 i 16:

  • sgiliau trawsgwricwlaidd cymhwyster llythrennedd, rhifedd a digidol
  • chwe maes dysgu a phrofiad
  • addysg perthnasau a rhywioldeb
  • crefydd, gwerthoedd ac egwyddorion
  • Cymraeg
  • Saesneg - o 7 oed. Mae gan benaethiaid a darparwyr addysg feithrin nad sydd yn cael eu cynnal, ddisgresiwn i gyflwyno’r Saesneg, neu beidio i ddysgwyr sydd rhwng 3 a 7 oed. Mae hyn er mwyn hwyluso trochiad y blynyddoedd cynnar yn yr Iaith Gymareg. Felly, y disgwyliad yw y bydd ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwyieithog yn parhau i gynnwys y Saesneg yn eu

Mae’r pedwar diben yn cael eu cynnal gan sgiliau allweddol, sef:

creadigrwydd a dyfeisgarwch

  • meddwl critigol a datrys problemau
  • effeithiolrwydd personol
  • cynllunio a threfnu

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Mae sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn angenrheidiol i ddysgwyr allu gael mynediad i wybodaeth. Mae’n rhaid i ddysgwyr gael cyfleoedd i:

  • Ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
  • gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn bywyd bob dydd
  • bod yn ddefnyddwyr hyderus mewn amrywiaeth o dechnolegau all eu cynorthwyo i weithio a chyfathrebu’n effeithiol gan wneud synnwyr o’r byd

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Daw’r chwe maes dysgu a phrofiad â disgyblaethau tebyg ynghyd er mwyn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon. 

Y chwe maes dysgu a phrofiad yw’r:

  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Llesiant
  • Dyniaethau
  • Iaith, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

Mae Cwricwlwm Cymru yn hybu cydweithrediad cynllunio, dysgu ac addysgu trawsgwricwlaidd ymhob Ardal.

Datganiadau’r hyn sydd yn bwysig

Mae’n rhaid i gwricwlwm yr ysgol gynnwys pob un datganiad o’r hyn sydd yn bwysig rhwng 3 ac 16. Defnyddir y datganiadau hyn gan ysgolion wrth gynllunio’u cwricwlwm. Maent yn cael eu defnyddio gan ysgolion er mwyn:

  • Dethol gwybodaeth, profiadau a sgiliau
  • deall Sul y gall dysgu gynorthwyo datblygiad dysgwyr
  • caniatáu dysgwyr i archwilio pynciau a gweithredoedd drwy lygaid gwahanol
  • cynorthwyo dysgwyr i wneud synnwyr o amrywiaeth o brofiadau, dealltwriaeth a sgiliau

Mae’n rhaid i gynnwys y cwricwlwm gysylltu â’r datganiadau ar yr hyn sydd yn bwysig. 

Disgrifiadau dysgu

Caiff cynnydd ei gefnogi ymhellach gan y disgrifiadau dysgu sy’n cynnig arweiniad ar sut y dylai dysgwyr ddangos cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig wrth iddyn nhw deithio drwy’r continwwm dysgu. Maen nhw wedi’u trefnu yn bum cam cynnydd sy’n cynnig cyfeirbwyntiau ar gyfer cyflymder y cynnydd. Yn fras, mae’r camau cynnydd yn cyfateb i ddisgwyliadau ar gyfer oedrannau 5, 8, 11, 14 ac 16.

Cwricwlwm i Gymru yng Nghymru

Mae Cwricwlwm Cymru yn adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth a’i hamrywiaeth ddiwylliannol, ei hieithoedd a’i gwerthoedd, hanes a thraddodiadau ei chymunedau a’i phobl. Dylai dysgwyr ddeall yr hunaniaethau, y tirweddau a’r hanes sydd yn dod ynghyd i ffurfio eu cynefin. Nid yw’r cynefin hwn yn lleol yn unig ond mae’n darparu sylfaen ar gyfer dinasyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.   

Dylai’r Cwricwlwm hefyd adlewyrchu’n cenedl ddwyieithog gan ddarparu llwybrau addas ar gyfer dysgu’r Gymraeg a’r Saesneg a galluogi disgyblion i fod yn hyderus wrth ddefnyddio’r ddwy iaith, o ddydd i ddydd.

Asesiad

Nid yw asesiad statudol diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn berthnasol bellach, fodd bynnag, dylai asesiad diwedd Cyfnod Allweddol 3 gael ei nodi o hyd.

Mae asesiad yn rhan allweddol o’r broses ddysgu wrth i ymarferwyr gydweithio â dysgwyr er mwyn dynodi eu cryfderau, meysydd i’w datblygu a’r camau nesaf ar gyfer dysgu. Wrth gynllunio trefniadau asesu fel rhan o gwricwlwm yr ysgol, dylid dilyn y canllawiau canlynol:

  • Pwrpas asesiad yw cefnogi datblygiad pob dysgwr unigol o ran continwwm 3 i 16.
  • Mae dysgwyr wrth galon yr asesu a dylid eu cefnogi i ddyfod yn gyfranogwyr yn y broses ddysgu.
  • Mae asesu’n broses sydd yn mynd yn ei blaen yn barhaol ac mae’n rhan allweddol o ddysgu ac addysgu.
  • Mae cyd-ddealltwriaeth o ddatblygiad drwy ddeialog broffesiynol yn rhan allweddol o gynllunio’r cwricwlwm er mwyn gwella dysgu ac addysgu.
  • Dylai dysgu, ledled y cwricwlwm dynnu ar amrywiaeth o ddulliau asesu gan adeiladu darlun cyflawn o ddatblygiad y dysgwr.
  • Mae ymgysylltiad rhwng dysgwyr, rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr yn angenrheidiol er mwyn cyflawni datblygiad a llesiant.

Prif bwrpas asesu yw cefnogi pob dysgwr i ddatblygu. Wrth gynllunio a darparu cyfleoedd, dylai ysgolion ac ymarferwyr fod yn glir o rôl benodol yr asesiad a’i bwrpas. Mae tri prif rôl er rmwyn cefnogi datblygiad y dysgwr: 

Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae TGAU yn cael ei ddefnyddio o hyd er mwyn asesu ac arholi mewn pynciau unigol. Mae amrywiaeth o gymwysterau arbenigol neu alwedigaethol hefyd ar gael ar y lefel hwn, ynghyd â chymwysterau mynediad ar gyfer disgyblion sydd yn perfformio’n is na lefel TGAU neu gymwysterau tebyg.

Mae’r dewis presennol o gymwysterau’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd, yn unol â phroses ddiwygio’r cwricwlwm. Bydd yr amrywiaeth lawn o gymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd yn cael eu gweithredu o fis Medi 2027.  

Cwricwlwm sydd yn hygyrch i bawb

Dylai cwricwlwm ysgol godi dyheadau pob un disgybl. Dylai roi ystyriaeth i’r modd y bydd dysgwyr yn derbyn cefnogaeth i gyflawni’r pedwar diben a datblygu. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i ddysgwyr fod â rhan weithredol yn eu cymunedau a ffynnu mewn byd cymhleth.

Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o anghenion ac amgylchiadau dysgwyr wrth gynllunio’r cwricwlwm gan ystyried cydraddoldeb cyfle wrth gynorthwyo a threfnu ymyriadau neu wneud addasiadau rhesymol.

Arolwg Ysgol

Mae arolygon ysgolion yn cael eu llywodraethu gan Ddeddf Addysg 2005 a rheoliadau cysylltiedig. Mae’n rhaid i arolygon gael eu gweithredu gan dîm o arolygwyr a arweinir gan AEM, arolygydd ychwanegol neu Arolygydd Cofrestredig a dylid cyhoeddi adroddiad. Maent yn adrodd ar gryfderau ac ar feysydd y dylid eu gwella er mwyn cyflawni safonau addysgol ac ansawdd yr addysg a ddarperir. 

*mae llawer o’r cynnwys hwn i’w weld ar ganllawiau a fframwaith Llywodraeth Cymru ar www.hwb.gov.wales <http://www.hwb.gov.wales>

Mae crynodeb o ddatganiad y cwricwlwm ar gael ar wefan unigol pob ysgol.

Cysylltwch â Ni