Ar-lein, Mae'n arbed amser
Prydau Ysgol AM DDIm i bob disgybl cynradd
Mae Llywodraeth Cymru yn anelu i ddarparu pryd ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru, waeth beth yw incwm y teulu , erbyn mis Medi 2024.
Cinio Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd – At sylw rhieni disgyblion Blynyddoedd 3 a 4. O ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, bydd holl ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4 yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim fel rhan o’r Cynllun Prydiau Ysgol am Ddim i Blant Cynradd. Mae hyn yn ychwanegiad i’r ddarpariaeth gyfredol lle y mae holl ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen yn derbyn cinio ysgol am ddim, os dymunant.
Nid oes angen i chi wneud cais amdano a gall POB disgybl yn y blynyddoedd ysgol canlynol – Meithrin llawn amser, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2 a Blynyddoedd 3 a 4 dderbyn cinio ysgol am ddim, pob dydd. Archebwch ginio’ch plentyn yn y ffordd arferol trw’r ysgol. Y gobaith yw cynnig yr un ddarpariaeth ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 yn Ebrill 2024.
Anogir pob rhiant i archebu pryd(au) ysgol eu plant o flaen llaw drwy ParentPay. Bydd eich plentyn yn dewis eu hopsiwn yn yr ysgol wrth gofrestru.
Rydym yn anelu i ymestyn hyn i Flwyddyn 5 a 6 erbyn Ebrill 2024.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch : UPFSM@ Merthyr.gov.uk
Gofynion Dietegol Arbennig
Er mwyn gallu darparu cinio i rai gyda gofynion dietegol arbennig, sy’n cynnwys :
- Opsiwn Lysieuol
- Diet Crefyddol Moesegol
- Anghenion meddygol Alergedd
Mae angen i chi gwblhau Ffurflen Dietegol Arbennig ac uwchlwytho dogfenau i gefnogi diet/ alergedd.
Gellir gweld y ffurflen trwy ddilyn y ddolen isod:
Ffurflen Gofynion Dietegol Arbennig | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Os nad oes gan eich plentyn angen dietegol arbennig, peidiwch cwblhau’r ffurflen uchod.
Nodwch, ar gyfer ceisiadau am ddiet arbennig, byddwn ni ond yn derbyn ceisiadau sy’n cynnwys dogfennau meddygol i gefnogi’r cais.