Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cynllun Cerddoriaeth Genedlaethol

Bydd y Cynllun Cerddoriaeth Genedlaethol yn dechrau cael ei weithredu ar draws Cymru o fis Medi 2022. Gweledigaeth y cynllun yw i bob plentyn yng Nghymru waeth beth eu cefndir, i gael y cyfle i ddysgu offeryn.

Dylai profi’r mwynhad o gerddoriaeth, ym mhob ffurf, fod yn ganolog ym mhob lleoliad ac ysgol.

Nod y cynllun yw

  • Dileu’r rhwystrau i ddarpariaeth cerddoriaeth i bob dysgwr
  • Cefnogi ysgolion a lleoliadau wrth gyflwyno'r Cwricwlwm I Gymru
  • Adeiladu cysylltiadau cryfach gyda sefydliadau er mwyn sicrhau ystod eang o gyfleoedd creu a mwynhau cerddoriaeth

Mae dull Merthyr Tudful o wireddu’r weledigaeth a amlinellir yn y Cynllun Cerddoriaeth Genedlaethol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd mewn partneriaeth gydag ysgolion, grwpiau cymunedol ac ystod eang o sefydliadau.

Mae nifer sylweddol o gyllid wedi ei fuddsoddi’n barod wrth ddatblygu adnoddau offerynnau cerdd Merthyr Tudful, er mwyn cefnogi datblygiad cynllun llogi, sy’n galluogi rhoi cyfle i chwarae offeryn i bob dysgwr tu fewn a thu allan i ysgolion a lleoliadau.

Mae nifer o raglenni gwaith sydd wedi eu cysylltu i’r cynllun, a fydd yn cael eu datblygu.

  • Profiadau cyntaf a phrofiadau cerddoriaeth byw
  • Llwybrau cerddoriaeth
  • Creu cerddoriaeth gydag eraill
  • Cerddoriaeth ar gyfer iechyd a lles

Mae cynnig y Gwasanaeth Cerddoriaeth, yn cael ei amlinellu yn AGAN (Addysg Gerddoriaeth Angen Ni) a bydd yn cael ei ddatblygu gan ddilyn y Cynllun Cerddoriaeth Genedlaethol. Mae’r AGAN presennol yn cynnwys

  • Gwersi Ensemble Dosbarth Cyfan
  • Gwersi grwp bach
  • Gwersi 1-1
  • Defnyddio ‘charanga’
  • Technegau a fideos twymo fyny
  • Cerdd Ieuenctid Merthyr Tudful
  • Projectau Celf Fynegiannol
  • Projectau estyn allan gan Y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama
  • Mynediad a pharatoi at arholiadau allanol

I wybod mwy am y gwasanaeth, cysylltwch gyda  Andrew.may@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni