Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rôl Llywodraethwr Ysgol

Beth yw Llywodraethwr?
Gwirfoddolwyr yw llywodraethwyr, ac maent yn cydweithio’n glòs â Phenaethiaid a staff ysgolion fel rhan o’r strwythur arwain a rheoli cyffredinol. Mae’r corff yn helpu i lywodraethu fframwaith yr ysgol, a’r Pennaeth sy’n gyfrifol am y gwaith rheoli o ddydd i ddydd.

Ar y cyd, nhw sy’n gyfrifol am reoli cyllideb yr ysgol, recriwtio staff, meithrin cysylltiadau â rhieni a’r gymuned, a hyrwyddo safonau uchel o ran cyraeddiadau addysgiadol. 

Gwnewch Wahaniaeth trwy ddod yn Llywodraethwr Ysgol
Mae bod yn llywodraethwr ysgol yn caniatáu ichi wella’ch ysgol a thrwy hynny, byddwch yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Dyma’r hyn sy’n gyrru’r mwyafrif o lywodraethwyr, ond mae yna fuddion eraill hefyd.

Y Boddhad a gewch o fod yn Llywodraethwr

  • Y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd ac ymgymryd â hyfforddiant am ddim a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chonsortiwm Canolbarth y De ar wahanol agweddau o’ch rôl fel llywodraethwr.
  • Y wybodaeth eich bod wedi chwarae rhan i wella addysg y plant a chefnogi staff yr ysgol.
  • Y cyfle i weithio fel rhan o dîm.
  • Y cyfle i gael ymdeimlad o gyflawniad fel aelod gweithgar o’r gymuned.
  • Y cyfle i wella’ch sgiliau wrth drafod, cwestiynu, datrys gwrthdrawiadau, rheoli amser a delio â chyllid.

Beth yw’r Gwahanol Gategorïau o Lywodraethwyr?

  • Penodir Llywodraethwyr Cymunedol gan y Corff Llywodraethu i gynrychioli’r gymuned. Dylent fyw neu weithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol.
  • Penodir Llywodraethwyr Awdurdod Lleol (ALl) gan yr Awdurdod Lleol.
  • Etholir Rhiant Lywodraethwyr i’r Corff Llywodraethu gan rieni eraill ac fel rheol maent yn rhieni i blant sy’n mynychu’r ysgol.
  • Etholir Athrawon a Staff Lywodraethwyr gan staff perthnasol yr ysgol.
  • Penodir Llywodraethwyr Sefydledig gan y rhai a sefydlodd yr ysgol i gynrychioli’u buddiannau.
  • Llywodraethwyr Awdurdod Llai - mewn rhai ardaloedd lle ceir Mân Awdurdodau, caiff aelod ychwanegol ei benodi i’w cynrychioli ar y Corff Llywodraethol.

Ein Ffordd Ni o Gefnogi Llywodraethwyr Ysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnig cefnogaeth trwy’r Tîm Cefnogi Llywodraethwyr. Mae’r Tîm Cefnogi Llywodraethwyr yn darparu gwasanaeth clercio ar gyfer Ysgolion Cynradd, Uwchradd ac Arbennig. Mae’r tîm profiadol hwn yn darparu cyngor a chefnogaeth o ansawdd uchel i’r cyrff llywodraethu, ynghyd â rhaglen hyfforddi gynhwysfawr.

Mae tymor gwasanaeth llywodraethwr yn para am bedair blynedd. Bydd disgwyl ichi fynychu tri chyfarfod o’r Corff Llywodraethu y flwyddyn, un ymhob tymor.

Cysylltwch â Ni