Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwybodaeth am Gludiant o Gartref i Ysgol
Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau fod eich plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac mae hyn yn cynnwys trefnu cludiant i’r ysgol ac oddi yno, talu am gostau hyn a hebrwng eich plentyn pan fydd angen gwneud hynny. Mewn rhai achosion, mae gennym ofyniad cyfreithiol i ddarparu cludiant i’r ysgol, am ddim. Byddwn yn cynorthwyo’ch plentyn â chludiant o’r cartref i’r ysgol os yw’ch plentyn yn mynychu ei ysgol addas, agosaf.
Mae cludiant, am ddim o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu ar gyfer:
- disgyblion oed cynradd sydd yn byw 2 filltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol addas, agosaf.
- disgyblion oed uwchradd sydd yn byw 3 milltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol; addas, agosaf, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.
Diffiniad o’r ‘ysgol addas, agosaf’:
Mae Mesur Taith Dysgwr (Cymru) 2009 yn nodi mai diffiniad “ysgol addas” yw lle y mae’r “addysg neu’r hyfforddiant sydd yn cael eu darparu yn addas o ran oed, gallu a chymhwysedd y dysgwr ac unrhyw anhawster dysgu y gallai fod ganddo.”
Ni allwn gynorthwyo â chludiant os dymunwch anfon eich plentyn i ysgol arall, yn hytrach na’ch ysgol agosaf. Mae cludiant ond ar gael rhwng eich ysgol a’ch cyfeiriad cartref – ni allwch ddefnyddio’r cludiant hwn i fynd â’ch plentyn i ail gyfeiriad neu i gyfleusterau gofal plant.
Amgylchiadau eraill:
- Os yw’ch plentyn yn byw mewn mwy nag un cyfeiriad (preswyliad deuol)
- Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol ychwanegol, anabledd neu broblemau symudedd ac nad oes fodd iddo gerdded i’r ysgol
- Mae ei lwybr i’r ysgol yn llai na’r pellter cerdded statudol ond ei fod wedi cael ei asesu a’i bennu i fod yn anaddas i gerdded.