Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cludiant coleg ôl 16
Nid oes gofyniad statudol i ddarparu cludiant i ddysgwyr ôl-16. Fodd bynnag, mae Merthyr Tudful yn cynnig gwasanaeth cludiant yn ôl disgresiwn i ddysgwyr 16 i 19 oed sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Darperir cludiant am ddim i fyfyrwyr cymwys i'r Coleg Merthyr Tudful. O fis Medi 2026 ymlaen, ni fydd unrhyw fyfyrwyr newydd sy'n mynychu Coleg y Cymoedd (Campysau Ystrad Mynach ac Aberdâr) a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr (Campws Pencoed) bellach yn cael cludiant.
Rhaglenni Newydd
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cludiant am ddim i'r Coleg Merthyr Tudful, RHAID i ddysgwyr ôl-16:
- breswylio ym Merthyr Tudful.
- fod dros 16 oed ac o dan 19 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
- fod yn mynychu cwrs astudio cyntaf yn y Coleg Merthyr Tudful ar gyfer eu rhaglen addysg bellach amser llawn gymeradwy a ddewiswyd.
- breswylio tair milltir neu fwy i ffwrdd o'r Coleg, Merthyr Tudful. Mae hyn yn cael ei bennu gan y pellter cerdded byrraf.
Bydd myfyrwyr cymwys yn cael naill ai tocyn trên Trafnidiaeth Cymru neu docyn tymor electronig drwy'r ap Stagecoach. Bydd gofyn i fyfyrwyr gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar yr orsaf/arhosfan addas agosaf yn dibynnu ar yr ardal a'r math o docyn tymor a ddarperir. Mae'r Cyngor yn penderfynu'r trefniadau trafnidiaeth mwyaf priodol ar gyfer pob myfyriwr.
Mae'n bwysig pan fyddwch chi'n cwblhau'r ffurflen gais i ddefnyddio cyfeiriad e-bost y myfyriwr (naill ai'n bersonol neu a ddarperir yn y coleg) yna os oes angen, bydd yr holl ohebiaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap tocynnau tymor yn cael ei hanfon trwy e-bost i'r cyfeiriad a ddarperir.
Bydd myfyrwyr sydd wedi derbyn cludiant am ddim o'r blaen i naill ai Coleg y Cymoedd (Campysau Ystrad Mynach ac Aberdâr) a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr (Campws Pencoed) ac sydd wedi cofrestru ar gyfer blwyddyn nesaf yr un cwrs neu sy'n symud ymlaen i lefel nesaf yr un cwrs astudio yn parhau i dderbyn cludiant am ddim cyn belled â'u bod o dan 19 oed ar 1 Medi 2026.
I wirio cymhwysedd neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, dylech gysylltu â'r adran cludiant ysgol ar 01685 72500 neu e-bostio transport@merthyr.gov.uk