Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cludiant i blant gydag anghenion addysgol arbennig neu gyda anhawster symud
Cludiant ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol ychwanegol
Ystyrir anghenion addysgol ychwanegol pob un unigolyn fel sydd wedi’u manylu mewn Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ffurfiol neu asesiad proffesiynol, cydnabyddedig arall ar adeg yr asesiad ar gyfer cludiant.
Pan fydd y pellter i’r ysgol addas yn llai na’r pellter cerdded, statudol byddwn yn ystyried cymorth trafnidiaeth gan ystyried amgylchiadau unigol ac anghenion teithio’r plentyn.
Cludiant ar gyfer plant sydd â phroblemau symudedd
Os oes gan eich plentyn anawsterau symudedd sydd yn ei rwystro rhag cerdded neu gael mynediad i safle ei ysgol leol, byddwn yn ystyried cymorth trafnidiaeth i’r ysgol addas, agosaf i’w gartref. Byddwn yn asesu addasrwydd y pellter cerdded a’r mynediad i’r safle, ar sail unigol.