Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Ganolfan SIY
Mae’r Ganolfan SIY/ST yn Nhŷ Dysgu Dowlais yn cynnwys ystafell yn llawn adnoddau ble gall plant sy’n newydd i Saesneg neu yn newydd i’r iaith dderbyn cefnogaeth ieithyddol dwys. Rydym hefyd yn croesawu plant Teithwyr i dderbyn cefnogaeth gyda sgiliau sylfaenol a lles. Mae’r Ganolfan yn gam i blant sy’n dychwelyd i addysg, i esmwytháu’r cam yn ôl i ddysgu. Mae cynlluniau ar y gweill i ddefnyddio’r Ganolfan ar gyfer sesiynau galw heibio i rieni ble gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’u plant, rhannu profiadau a dathlu eu diwylliant.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda merthyrhomeed@merthyr.gov.uk