Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Gymraeg mewn Ysgolion Cyfrwng Saesneg
Cymraeg 2050: Mae’r targed o Filiwn o siaradwyr Cymraeg yn datgan ein huchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae dysgu’r Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru. Dylai bod y llwybrau priodol ar gael i bob disgybl allu dysgu Cymraeg a Saesneg er mwyn eu galluogi i ddatblygu’r hyder i ddefnyddio’r ddwy iaith yn ystod eu bywyd beunyddiol. Dylai ysgolion sicrhau amgylchedd ieithyddol gyfoethog i bob disgybl a dylid datblygu mewn modd priodol sgiliau darllen, gwrando, siarad ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm. Led led Merthyr Tudful, bydd disgyblion yn dechrau dysgu o’r meithrin hyd nes eu bod yn 16 mlwydd oed.
Yn bedair ar ddeg mlwydd oed, gall ddisgyblion astudio at gymhwyster yn y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth ewch at y wefan ganlynol: Cwricwlwm i Gymru - Hwb
Cymwysterau newydd
Fel rhan o’r newidiadau i’r arholiadau TGAU Gwneud-i-Gymru, bydd cyrsiau TGAU newydd yn y Gymraeg yn cael eu cyflwyno:
- TGAU Cymraeg Craidd
- Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol (mae’n ychwanegu at y sgiliau a ddysgir o fewn y cwrs Cymraeg Craidd)
Am ragor o wybodaeth gweler y wefan ganlynol: Dysgwyr yng Nghymru i astudio cymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru o 2025
Siarter Iaith
Mae’r Siarter Iaith yn fframwaith cenedlaethol y mae pob un o ysgolion Merthyr Tudful yn gweithio tuag ati. Mae ganddi wahanol lefelau ac mae gofyn i bob ysgol weithio tuag atynt.

Swyddog Hyrwyddo a Safonau’r Gymraeg
Coleg Merthyr
Ynysfach
Merthyr Tudful
CF48 1AR
01685 726000
Mae’r coleg yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio’r Gymraeg ar sawl lefel, o lefel sylfaenol hyd at Lefel A yn y Gymraeg.
Mae darpariaeth y Gymraeg yn y Coleg yn cynyddu ar hyn o bryd – mae gan bob un o’r myfyrwyr y cyfle i gyflwyno unrhyw ddarn o’u gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid oes yn rhaid i chi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn buddio o wasanaethau Cymraeg yn y coleg. Bydd Swyddog y Gymraeg y Coleg – Lynwen Harrignton - yn eich cefnogi a’ch cynghori.
Am ragor o wybodaeth gweler y tudalennau canlynol: