Ar-lein, Mae'n arbed amser

Blynyddoed Cynnar Cyfrwng Cymraeg – Llwyddo o’r cychwyn cyntaf – 0-4 mlwydd oed

Ydych chi’n ystyried addysg gyfrwng Gymraeg i’ch plentyn? Byddwch yn derbyn croeso cynnes ar eich siwrnai!

Beichiogrwydd hyd 6 mis

Yn ystod y cyfnod o feichiogrwydd, dengys ymchwil bod babis yn gallu clywed lleisiau a cherddoriaeth. Felly os ydych yn awyddus i fagu eich plentyn yn ddwyieithog, dyma’r cyfnod i gychwyn siarad a chanu’n Gymraeg gyda’ch babi. Mae Cymraeg i Blant yn darparu gwybodaeth a chyngor am fanteision dwyieithrwydd i rieni a rhieni newydd https://meithrin.cymru/irieni/

Mae siarad ychydig o eiriau Cymraeg gyda’ch babi’n bwysig, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o eiriau Cymraeg sydd gennych, gan ei fod yn rhoi’r dechrau dwyieithog gorau i’ch babi. Mae canu’n ffordd dda o gyfathrebu gyda’ch babi, gallwch ganu hwiangerddi Cymraeg neu wrando ar ganeuon Cymraeg. O chwe mis bydd sgiliau ieithyddol eich babi’n datbylgu’n gyflym iawn. Dyma’r cyfnod i ddechrau darllen storïau syml gyda’ch babi a throi tudalennau stori â llun gyda’ch gilydd. Bydd eich babi’n dechrau dynwared synau a chysylltu geiriau gyda gwrthrychau, felly bydd dysgu geiriau syml Cymraeg gyda’ch gilydd bob dydd yn effeithiol.

Cymraeg i Blant

Mae Cymraeg i Blant yn rhannu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni ynghylch sut i gyflwyno’r Gymraeg yn gynnar drwy ystod o grwpiau am ddim megis tylino i fabis, yoga i fabis, ac Arwyddo, Stori a Chân. Er mwyn cofrestri i fod yn rhan o grŵp ewch at dudalen Facebook Cymraeg i Blant Merthyr. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan ganlynol:

Cymraeg for Kids - Meithrin

Ti a Fi

Cyfle i fabis a babanod hyd at ddwy flwydd oed chwarae gyda’i gilydd, gwrando ar storïau a chanu caneuon Cymraeg.

Mae croeso i siaradwyr Cymraeg yn ogystal â’r sawl nad sy’n siarad Cymraeg ac mae’n le gwych i wneud ffrindiau newydd – i oedolion a phlant ill dau. Y Mudiad Meithrin, sefydliad sy’n rhoi cefnogaeth allweddol i addysg y blynyddoedd cynnar yng Nghymru, sy’n cynnal y grwpiau Ti a Fi.

Cylch Ti a Fi - Meithrin

Cylchoedd Meithrin 2-4

Gall blant fynychu sesiwn sydd tua 2 awr neu ddwy awr a hanner o hyd. Mae rhai grwpiau’n darparu llefydd ar gyfer plant sydd ar fin troi’n dair, addysg gofrestredig, llefydd Dechrau’n Deg a gofal ar ôl oriau ysgol. O bryd i’w gilydd, darperir gwasanaeth lapio sy’n golygu bod plant yn gallu mynychu clwb brecwast, neu glwb ar ôl ysgol yn y meithrin, cyn i’r sesiwn feithrin gychwyn neu wedi iddo ddod i ben a darperir cludiant i’r ysgol Gymraeg lleol er mwyn iddynt dderbyn eu haddysg.

Cylchoedd Meithrin - Meithrin

Cylchoedd Meithrin ym Merthyr Tudful

Gallwch chwilio am Gylch Meithrin yn y fan hon: Chwilio am Gylch Meithrin

Cylch Meithrin Aberfan Canolfan Blant a Theuluoedd y Drindod, Aberfan, CF48 4NT Rhif Ffôn: 01443 693777 E-bost: info@trinitychildcare.wales

Cylch Meithrin y Gyrnos, Ffordd Cedrwydd, Gurnos, Merthyr Tudful, CF47 9PA Rhif Ffôn: 07507 690863 E-Mail: cylchmeithrinygyrnos@outlook.com

Cylch Meithrin Twyncarmel, Capel Twyncarmel, Clwydyfagwr, Ffordd Abertawe, Merthyr Tudful, CF48 1HN Rhif Ffôn 01685 350167 E-bost: cylchmeithrintwyncarmel@live.co.uk - Mae'r Cylch hwn yn darparu addysg gofrestru.

Cylch Meithrin Pentrebach, Canolfan Integredig Cwm Golau, Heol Dyffryn, Pentrebach CF48 4BJ Rhif Ffôn: 01685 727374/07506 715186 E-bost: meithrinpentrebach@hotmail.com

Cylch Meithrin Treharris, Clwb Merched a Bechgyn Treharris, Heol y Goedwig, Treharris CF46 5RG Rhif Ffôn 07716 822686 E-bost: cylchmeithrin_treharris@outlook.com

Dechraun Deg

Mae Dechraun Deg bellach wedi'i gynnal ar gyfer pob plentyn 2-3 oed sy'n byw yn Sirol Merthyr. Mae gofal plant wedi'i ariannu am hyd at 12.5 awr yr wythnos ar gyfer y grŵp oedran hwn ac mae ar gael yn Gymraeg.

I gofrestru ac yn seilio cais am y gofrestrfa ofal plant a ariannwyd:

Ffurflen Gofrestru Dechrau'n Deg

Cais Gofal Plant Dechrau’n Deg

Y daith ddwyieithiog gyda Dechrau’n Deg

Gofal Plant Am Ddim

Croeso i’r Cylch Meithrin

https://youtu.be/Z1l9uEKKk0s

Shwmaeronment | Facebook

Cysylltwch â Ni