Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae Merthyr Tudful yn falch i gynnig addysg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cynradd. Mae ysgolion cyfrwng Gymraeg yn magu disgyblion dwyieithog sy’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ill dau.
Mae nifer o fanteision a buddion hirdymor i allu siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl yng Nghymru.
Pan fydd plant yn dechrau dysgu Cymraeg, byddant yn cael eu trochi yn yr iaith o’r cychwyn cyntaf. Cydnabyddir y dull hwn o ddysgu ieithoedd yn rhyngwladol ac erbyn hyn defnyddir y dull mewn gwledydd megis Canada a Gwlad y Basg. Siaradir Cymraeg drwy gydol y cyfnod Sylfaen (meithrin i flwyddyn 2) ac wedi hynny, bydd plant yn cael gwersi Saesneg ac yn defnyddio’r Saesneg mewn rhai gwersi ar draws y cwricwlwm.
Erbyn hyn mae tair ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg Ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae Ysgol Santes Tudful yn ysgol gyfrwng Gymraeg a chanddi sylfaen gadarn yn nhref Merthyr. Mae hi’n darparu addysg o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg i dros 440 o ddisgyblion gyda’r Saesneg yn cael ei chyflwyno ym Mlwyddyn 3. Golyga hyn bod yr holl blant yn gadael yr ysgol yn gymwys ac yn hyderus yn eu defnydd o’r ddwy iaith ac wedi eu paratoi’n drwyadl at y cyfnod pan fyddant yn trosglwyddo i Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae’r ysgol yn darparu ystod gyfoethog o brofiadau addysgol ac yn paratoi’r plant i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol, dwyieithog sy’n parchu ei gilydd, eu cyfoedion, eu treftadaeth a’u hamgylchedd.
Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful
Heol Pantyffin
Merthyr Tudful
CF47 0HU
01685 351815
office@santestudful.merthyr.sch.uk
Ysgol Santes Tudful | Facebook
Gwybodaeth bellach
Agorwyd yr egin ysgol yn 2022 ar Ystâd y Gurnos, Merthyr Tudful. Darpariaeth loeren i Ysgol Santes Tudful yw hon ar hyn o bryd. Mae yno ddosbarthiadau Meithrin hyd Flwyddyn 1 yma ar hyn o bryd ond bydd yr ysgol yn parhau i dyfu.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Safle’r Gurnos, cysylltwch ag: Ysgol Santes Tudful

Ysgol cyfrwng Gymraeg yw Ysgol Rhyd-y-Grug sydd wedi ei lleoli ym mhentref Aberfan yn awdurdod lleol Merthyr Tudful. Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgol. Mae’n darparu addysg gyfrwng Gymraeg o safon uchel i dros 200 o blant gyda’r Saesneg yn cael ei chyflwyno ym Mlwyddyn 3. Mae’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gyfun Rhydywaun gyda gwybodaeth wych a hyderus o’r ddwy iaith. Mae’r ysgol yn darparu ystod o brofiadau a chefnogaeth addysgol sy’n galluogi’r disgyblion i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol, dwyieithog.
Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug
Aberfan
Merthyr Tudful
CF48 4NT
01685 351818
offce@rhyd-y-grug.merthyr.sch.uk
Gwybodaeth bellach ynghylch Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug
Gallwch fynd ar daith rhithiol o’r ysgol
Darpariaeth Drochi
Os ydych newydd symud i Ferthyr Tudful neu os ydy’ch plentyn/ plant yn barod yn mynychu ysgol arall, a chithau’n ystyried newid i ysgol gyfrwng Gymraeg, mae darpariaeth ar gyfer Trochi yn yr Iaith Gymraeg ar gael yn Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug ill dwy.
Darperir cefnogaeth ddwys i’ch plentyn er mwyn cefnogi ei addysg a’i allu i gael mynediad at y cwricwlwm. Bydd y gefnogaeth yn cynnwys cyfleoedd i’r plant gael eu trochi yn eu prif ystafell ddosbarth yn ogystal â chyfoethogiad fel bod modd iddynt ddefnyddio’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau. Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid i Addysg Gyfrwng Gymraeg!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r naill ysgol neu’r llall.
Symud Ymlaen!
Mae’r tair ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg yn bwydo’r ysgol uwchradd sef Ysgol Gyfun Rhydywaun sydd ym Mhenywaun, Rhondda Cynon Taf.
Darperir trafnidiaeth er mwyn i blant allu mynychu.
Gwneud cais am le mewn ysgol
Gallwch ymweld â thudalen Derbyn i Ysgolion Merthyr Tudful am wybodaeth bellach
Ceisio am le Mewn Ysgol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful