Ar-lein, Mae'n arbed amser
Prosiect Ysbrydoli i Gyflawni (YiG) 11-16
Mae Ysbrydoli i Gyflawni yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol Ewrop sy’n gweithio ar draws 5 awdurdod lleol, 3 Coleg Addysg Bellach a Gyrfa Cymru.
Os ydych chi’n 11-16 oed ac yn mynychu ysgol uwchradd ym Merthyr Tudful, yna gallech chi fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth oddi wrth ‘Weithiwr YiG’ yn eich ysgol.
Mae Tîm Ysbrydoli i Gyflawni yn cynnig cefnogaeth oddi wrth dîm profiadol iawn o weithwyr ieuenctid cymwysedig. Mae Gweithwyr YiG yn gallu darparu cefnogaeth un i un os ydych am siarad gyda rhywun i gael help i wella hyder, hunan barch a’ch gallu i weithio fel rhan o dîm, drwy dderbyn mentoriaeth, cyngor ac arweiniad.
Mae Prosiect Ysbrydoli i Gyflawni’n gallu cynnig amrywiaeth o weithgareddau a all gynnwys; gwaith grŵp i wella datblygiad personol a chymdeithasol, Globaleiddio a Dinasyddiaeth; fel eich bod chi’n deall eich lle yn y byd, Cymwysterau, Cyngor Gyrfaol uwch ac Arweiniad drwy ein partneriaeth â Gyrfa Cymru, Ymgysylltu â Chyflogwr a Pharatoi at Waith a Gweithgareddau Haf fel addysg awyr agored.
Cysylltwch am ragor o wybodaeth drwy gysylltu â;
Mercia.northover@merthyr.gov.uk
Mae YiG yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener 9 am – 5 pm
Caiff e-byst eu gwirio y tu allan i’r oriau hyn gan gysylltu ar y diwrnod gwaith nesaf.