Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysbrydoli i Gyflawni - Cefnogi eich taith i gyflogaeth

Ydych chi’n 16–24 oed ac yn ddi-waith ar hyn o bryd? Rydyn ni yma i'ch cefnogi gyda'ch camau nesaf i mewn i gyflogaeth.

 I2A Team Photo

Mae Ysbrydoli i Gyflawni’n brosiect wedi ei ariennu gan y Gronfa Twf Lleol ac fe’i gynlluniwyd i'ch helpu i feithrin y sgiliau, yr hyder a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i symud yn nes at gyflogaeth. Pa un ai ydych yn gobeithio gwella eich cyfleoedd am swydd, goresgyn rhwystrau, neu ddod o hyd i'r sefydliad cywir i gefnogi eich nodau, rydyn ni yma i helpu.

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig:

Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Bersonoli

  • Byddwn yn datblygu eich cyflogadwyedd ac yn eich paratoi i weithio
  • Byddwch yn derbyn arweiniad wedi'i deilwra, un-i-un yn seiliedig ar eich anghenion a'ch nodau
  • Meithrin hyder, sgiliau a chymwysterau sy'n berthnasol i'r farchnad lafur heddiw

Help Ymarferol i Gael Gwared ar Rhwystrau

  • Cefnogaeth gydag ysgrifennu CV a diweddariadau
  • Help gyda chwilio am swydd a chwblhau ffurflenni cais
  • Cynnig sesiynau 1:1 i fynd i'r afael ag iechyd a lles
  • Byddwn yn eich cyfeirio at bartneriaid i gryfhau'r gefnogaeth

Cyrsiau Hyfforddi Ar-lein Am Ddim

Mae Ysbrydoli i Gyflawni’n darparu mynediad at ystod o gyrsiau ar-lein am ddim i'ch helpu chi i gryfhau eich sgiliau, gan gynnwys:

  • Sgiliau Cyfathrebu
  • Sgiliau Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Diogelu Data
  • Lefel 2 Hylendid a Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo
  • Lefel 1 Cyflwyniad i Ddiogelu Plant
  • Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
  • Ymwybyddiaeth o Ymdrin â Llaw

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysbrydoli i Gyflawni (I2A):

📞 Ffôn: 01685 727457
📧 E-bost: I2A@merthyr.gov.uk

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am – 5:00pm. Byddwn yn ymateb i negeseuon ac e-byst a dderbynnir y tu allan i'r oriau hyn y diwrnod gwaith nesaf.

Cymorth Ychwanegol

Cymorth Ychwanegol

Cymwysterau Cydnabyddedig

Darganfod am gymwysterau sy’n berthnasol i’r gwaith.

Achrediad a Hyfforddiant sy’n berthnasol i’r Gwaith

Mynychu cyrsiau byr i wella eich Sgiliau a’ch Cyflogadwyedd.

Paratoi am Waith

Enillwch gymwysterau i hybu eich Sgiliau a’ch Cyfleoedd Gyrfaol.

Cyfleoedd Lleoliad Gwaith

Rydym yn cynnig Lleoliadau Gwaith mewn amrywiaeth o Amgylchiadau Gwaith.

Chwilio am Swydd, Cymorth Gyrfa

Defnyddiwch ein cyfleusterau i ddod o hyd i'r swydd iawn.