Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysbrydoli2 Gyflawni 16-19

Y Rhaglen Ysbrydoli i Gyflawni

Ydych chi rhwng 16-19 oed ac yn ddi-waith ar hyn o bryd? Rydym yn cefnogi unrhyw un rhwng yr oedrannau hyn sy'n chwilio am gefnogaeth i gyfleoedd cyflogaeth neu hyfforddiant.

 Beth am fynychu ein Clwb Swyddi - Bob dydd Mercher 11am - 1pm yng Nghanolfan Ieuenctid Penydre

Mae I2A yn brosiect a ariennir gan SPF a gallwn eich cefnogi neu eich arwain at 
sefydliadau perthnasol eraill yn dibynnu ar beth yw eich anghenion cymorth neu
ble rydych yn byw.

Gallwn gynnig cefnogaeth i chi gyda Chwilio am Swydd a ffurflenni cais, 
ysgrifennu neu ddiweddaru eich CV, arweiniad i brosiectau i gefnogi eich Iechyd
a Lles a hyfforddiant ar-lein am ddim mewn:


Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Lesley Jones ar 01686 727457 trwy alwad ffôn neu neges destun, neu gyrrwch e-bost ataf fi yn - Lesley.jones@merthyr.gov.uk

Mae’r Rhaglen yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm. Y tu allan i’r oriau hyn, byddwn yn codi’r negeseuon ffôn ac e-bost ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn yn ystod y diwrnodau gwaith dilynol.

 

Cymorth Ychwanegol

Cymorth Ychwanegol

Cymwysterau Cydnabyddedig

Darganfod am gymwysterau sy’n berthnasol i’r gwaith.

Achrediad a Hyfforddiant sy’n berthnasol i’r Gwaith

Mynychu cyrsiau byr i wella eich Sgiliau a’ch Cyflogadwyedd.

Paratoi am Waith

Enillwch gymwysterau i hybu eich Sgiliau a’ch Cyfleoedd Gyrfaol.

Cyfleoedd Lleoliad Gwaith

Rydym yn cynnig Lleoliadau Gwaith mewn amrywiaeth o Amgylchiadau Gwaith.

Chwilio am Swydd, Cymorth Gyrfa

Defnyddiwch ein cyfleusterau i ddod o hyd i'r swydd iawn.