Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cymorth Iechyd Meddwl ac Osgoi Digartrefedd
Mae Tîm Iechyd Meddwl a Digartrefedd yr Ifanc yn gweithio â phobl ifanc sydd rhwng 11 a 25 oed ac sydd â phroblemau iechyd meddwl a llesiant emosiynol a hefyd â phobl ifanc sydd mewn risg o fod yn ddigartref.
Mae’r tîm yn gweithio’n agos ag ymarferwyr proffesiynol eraill yn y Gwasanaeth Ieuenctid, y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, y trydydd sector, ysgolion uwchradd a darparwyr ar ôl 16 oed er mwyn cynorthwyo â’r agenda digartrefedd, iechyd a llesiant.
Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
Mae’r tîm yn darparu cymorth iechyd emosiynol anghlinigol a llesiant i bobl ifanc. Maent hefyd yn darparu sesiynau grŵp sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant emosiynol.
Mae rhaglen waith y grŵp yn cynnwys y meysydd canlynol:
Adnabod iechyd meddwl
- Y gwahaniaeth rhwng iechyd meddwl ac afiechyd meddwl
- Adnabod arwyddion teimladau o hunanladdiad a hunan-niwed
- Darganfod rhwydweithiau cymorth ar gyfer pobl ifanc sydd yn cael problemau â’u hiechyd meddwl
- Datblygu sgiliau ymdopi ac ymarfer meddwlgarwch
Digartrefedd ymhlith yr Ifanc
Mae’r tîm yn gwneud gwaith ataliol un i un a hefyd yn darparu rhaglen grŵp a ddatblygwyd gan Shelter Cymru, o’r enw ‘Opening Doors’ / ‘Drysau Agored.’
Mae ‘Drysau Agored’ yn adnodd sydd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc sydd rhwng 11 ac 18 oed a’i fwriad yw lleihau digartrefedd yn y dyfodol ac anghenion tai ymhlith pobl ifanc.
Mae’n cyflwyno nifer o agweddau gwahanol sy’n ymwneud â thai a digartrefedd ac yn cynnwys y meysydd dysgu canlynol:
- Rhagdybiaethau a stereoteipio
- Byw’n annibynnol
- Meithrin ysbryd cymdogol
- Gwybod ble i fynd er mwyn derbyn cymorth petaent yn wynebu digartrefedd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Leanne Drew ar 07800 708720 neu e-bostiwch leanne.drew@merthyr.gov.uk