Ar-lein, Mae'n arbed amser
Camu’Mlaen
Cefnogaeth Atal Ieuenctid wedi ei Dargedu
Mae Tîm gwaith Ieuenctid Camu’Mlaen yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed a all fod yn dioddef o faterion lles emosiynol, maent hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc a all fod o risg o ddigartrefedd.
Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda phobl broffesiynol eraill yn y Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Y Trydydd Sector, ysgolion uwchradd a darparwyr Ôl 16 i gefnogi’r agenda lles ac iechyd a digartrefedd.
Lles Emosiynol
Mae’r tim yn cynnig cefnogaeth iechyd a lles un i un anghlinigol i bobl ifanc. Maent hefyd yn darparu sesiynau grwp ar destynau iechyd meddwl a lles emosiynnol.
Mae’r rhaglen gwaith grŵp yn ymdrin â’r ardaloedd canlynol:
- Cydnabod iechyd meddwl.
- Y gwahaniaeth rhwng iechyd meddwl a salwch meddwl.
- Adnabod arwyddion meddwl am hunanladdiad a hunan niwed.
- Dod o hyd i rwydweithiau cefnogaeth i bobl ifanc yn brwydro gyda’u hiechyd meddwl.
- Datblygu sgiliau ymdopi a meddylgarwch.
Atal Digartrefedd Yn yr Ifanc
Mae’r tîm yn ymgymryd â gwaith atal un i un ar ddigartrefedd yn yr ifanc ac maent hefyd yn cynnig rhaglen grŵp yn defnyddio adnoddau gan Shelter Cymru.
Mae’r rhaglen gwaith grŵp yn adnodd codi ymwybyddiaeth i bobl ifanc 11-18 oed gyda’r bwriad o leihau digartrefedd yn y dyfodol ac anghenion tai ymysg pobl ifanc.
Mae’n cyflwyno agweddau amrywiol o ddigartrefedd a thai yn y meysydd canlynol:
- Canfyddiadau ac Ystrydebau.
- Sgiliau byw’n Annibynnol.
- Gwybod ble i wneud cyfeiriad am gefnogaeth os ydych chi'n wynebu digartrefedd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â youth.support@merthyr.gov.uk