Ar-lein, Mae'n arbed amser

Clybiau Ieuenctid ym Merthyr Tudful

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr Tudful yn darparu clybiau ieuenctid ar gyfer unrhyw un sydd rhwng 11 a 25 oed ac sydd am gyfranogi. Lleolir y clybiau mewn gwahanol safleoedd ledled yr ardal leol ac maent yn cael eu rhedeg gan weithwyr ieuenctid cymwys sydd yn cynorthwyo pobl ifanc i benderfynu ar ba weithgareddau yr hoffent eu gwneud.

Er enghraifft, prosiectau celf, cerddoriaeth a drama; gweithgareddau chwaraeon ac yn yr awyr agored; Gwobrau Dug Caeredin a chynlluniau dyfarnu eraill; tripiau dydd a phrosiectau eraill y mae pobl ifanc am fod yn rhan ohonynt neu eu datblygu. Mae gweithwyr ieuenctid yno i siarad a gwrando a rhoi cymorth a chyngor os bydd angen.

Mae tîm o weithwyr ieuenctid sydd wedi’i lleoli ar y stryd ar gael yn ogystal ac maent yn gwneud gwaith allgymorth. Maent yno ar gyfer pobl ifanc na fyddai, o bosib yn cyrchu clybiau ieuenctid.

Mae clybiau ieuenctid wedi’u lleoli yn: 

Clwb Bechgyn a Merched Georgetown, Stryd Dinefwr, Merthyr Tudful, CF48 1AY.

Amseroedd agor:

Dydd Mawrth - 4.00 pm - 8.30 pm

Dydd Mercher - 4.00 pm - 8.30 pm

Dydd Iau - 4.00 pm - 6.00 pm

Dydd Gwener - 5.00 pm - 8.30 pm

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Bartlett ar 01685 389660 neu 07925398798 yn ystod oriau agor y clwb.

Clwb Bechgyn a Merched, Heol y Goedwig, Treharris, CF46 5HG.

Amseroedd agor:

Dydd Llun - 4.30 pm - 8.30 pm

Dydd Mawrth - 4.30 pm - 8.30 pm

Dydd Mercher - 4.30 pm – 8.30 pm  

Dydd Iau - 4.00 pm - 8.00 pm

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Noah Shepherd ar 01443 410841 neu 07927-679276 yn ystod oriau agor y clwb.

Am wybodaeth ar ble mae’n Tîm ar y Stryd yn gweithio neu beth y mae’r tîm yn ei wneud, ffoniwch un o’n Gweithwyr Ieuenctid dynodedig ar 01685 725088.

Cysylltwch â Ni