Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhandiroedd

NODER: Mae rhandiroedd yn y Fwrdeistref bellach yn rheoli eu hunain ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn eu rheoli, er bod y Cyngor yn cyfrannu'n flynyddol tuag at rai o'r cymdeithasau rhandiroedd ar draws y Fwrdeistref.

Os nad oes gennych chi ardd mae rhandir yn gyfle gwych i chi dyfu eich ffrwythau, llysiau neu flodau. Mae llawer o fuddion eraill hefyd fel awyr iach ac ymarfer corff, cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd. Felly os ydych erioed wedi ystyried garddio beth am rentu plot rhandir?

Maint Rhandiroedd

Bydd cost rhentu rhandir yn dibynnu ar faint y plot ac mae'n cael ei benderfynu gan y pwyllgor sy'n rheoli'r safle.

Safle Rhandir Maint (Metrau Sgwâr)
Blaen Dowlais (Gogledd) 955
Blaen Dowlais (De) 2,330
Royal Crescent 33,479
Cefn Ponty Capel 1,019
Rhes Oakland Treharris 7,731
Edwardsville 7,601
Parc Cyfarthfa (Heb ei ddefnyddio) 8,496
Ynysfach (Heb ei ddefnyddio) 637

Pwy i gysylltu â nhw

I ganfod mwy am rentu rhandir a'r rhestr brisiau mwyaf cyfredol defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Royal Crescent - Ewch i wefan Rhandir Royal Crescent am fanylion cyswllt a'r newyddion diweddaraf.

Allotment Federation - Mr Ian Cathrew, Ian.cathrew186@gmail.com