Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhandiroedd
Os nad oes gennych chi ardd mae rhandir yn gyfle gwych i chi dyfu eich ffrwythau, llysiau neu flodau. Mae llawer o fuddion eraill hefyd fel awyr iach ac ymarfer corff, cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd. Felly os ydych erioed wedi ystyried garddio beth am rentu plot rhandir?
Maint Rhandiroedd
Bydd cost rhentu rhandir yn dibynnu ar faint y plot ac mae'n cael ei benderfynu gan y pwyllgor sy'n rheoli'r safle.
Safle Rhandir | Maint (Metrau Sgwâr) |
---|---|
Blaen Dowlais (Gogledd) | 955 |
Blaen Dowlais (De) | 2,330 |
Royal Crescent | 33,479 |
Cefn Ponty Capel | 1,019 |
Rhes Oakland Treharris | 7,731 |
Edwardsville | 7,601 |
Parc Cyfarthfa (Heb ei ddefnyddio) | 8,496 |
Ynysfach (Heb ei ddefnyddio) | 637 |
Pwy i gysylltu â nhw
I ganfod mwy am rentu rhandir a'r rhestr brisiau mwyaf cyfredol defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Royal Crescent - Ewch i wefan Rhandir Royal Crescent am fanylion cyswllt a'r newyddion diweddaraf.
Allotment Federation - Mr Ian Cathrew, Ian.cathrew186@gmail.com