Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hurio Cestyll Bownsio/Offer Chwyddadwy

Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â’r mathau o gestyll bownsio ac offer chwarae chwyddadwy sy’n nodweddiadol o ddiwrnodau hwyl i’r teulu, ffeiriau, partïon stryd ac ati. Mae’r offer yn cael ei gadw’n chwyddedig trwy ddefnyddio ffan chwythu a gaiff ei phweru’n ddi-dor.

Fel Trefnydd Digwyddiad, os ydych yn ystyried hurio offer o’r fath, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod y cyflenwr wedi gwneud pob dim sy’n ofynnol ganddo o ran diogelwch. Bydd y canllaw byr hwn yn eich helpu i wybod beth i edrych amdano wrth sicrhau diogelwch y rhai sy’n defnyddio’r offer.

Mae’n rhaid i’r holl offer chwyddadwy a ddefnyddir yn fasnachol yn y DU fod wedi’u gweithgynhyrchu i’r Safon Brydeinig BS EN 14960:2013. Mae offer chwarae chwyddadwy a brynir o siop deganau ar y stryd fawr neu ar-lein yn debygol o fod yn anaddas at ddefnydd masnachol ac yn annhebygol o fodloni gofynion BS EN 14960:2013. Mae offer chwyddadwy fel arfer yn cael ei bweru’n ddi-dor gan chwythwr llif trydanol (240v) ac mae’n rhedeg yn gyson tra bo’r offer yn cael ei ddefnyddio. Gall aer ddianc drwy’r pwythau a rhaid eu newid yn barhaus neu bydd yr offer chwyddadwy’n cwympo. Dylai’r ddogfennaeth a ddarperir i’r huriwr gan y cyflenwr gadarnhau bod yr offer chwyddadwy wedi’i weithgynhyrchu yn unol â BS EN 14960:2013. Dylech hefyd ofyn i’r cyflenwr am y canlynol:

  • Tystysgrif PIPA neu ADIPS i ddangos bod diogelwch yr offer chwarae chwyddadwy wedi’i wirio o fewn y 12 mis diwethaf. Dylai’r chwythwr sy’n cael ei bweru gan drydan hefyd gael prawf PAT (Prawf Dyfeisiau Cludadwy) yn rheolaidd.

Mae PIPA yn gynllun archwilio a sefydlwyd gan y diwydiant offer chwarae chwyddadwy i sicrhau bod yr offer yn cydymffurfio â safonau diogelwch cydnabyddedig. Dylai’r offer gario Tag PIPA sy’n nodi ei fod wedi’i brofi o fewn y deuddeg mis diwethaf. Gellir dod o hyd i fanylion y tag a gwybodaeth bellach yn www.pipa.org.uk. Dylid nodi bod PIPA ond yn ymwneud â chyfarpar chwyddadwy a gwmpesir gan BS EN 14960:2013, e.e. cestyll bownsio, llithrennau a chyrsiau rhwystrau chwyddadwy. Byddai angen tystysgrif ADIPS ar gyfer offer chwyddadwy fel ringiau bocsio, waliau dringo, pyllau peli, chwaraeon meddal.

ADIPS yw Cynllun y Gweithdrefnau Archwilio ar gyfer Dyfeisiau Diddanu. Mae’n sicrhau bod dyfeisiau diddanu yn cael eu harchwilio’n rheolaidd ac yn cael eu hardystio’n ddiogel ar gyfer eu defnyddio gan bobl gymwys. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwirio’r manylion yn www.adips.co.uk.

  • Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Asesiad Risg sy’n benodol i’r safle/digwyddiad
  • Llawlyfr y gweithredwr – canllawiau ar y niferoedd mwyaf, yr oedrannau a argymhellir, yr hyn a ddylid ac na ddylid ei wneud

Am gyngor ynghylch dod o hyd i arolygydd, ewch i Gofrestr Arolygwyr Chwarae Rhyngwladol www.playinspectors.com. Gall cyflenwr fod yn aelodau o gymdeithas fasnach a gwasanaethau tanysgrifio, e.e. www.tipe.co.uk neu www.biha.org.uk. Er nad yw hyn yn orfodol, mae fel arfer yn dangos eu bod yn wybodus am y rheoliadau a’r canllawiau cyfredol.

Ystyriaethau materol:

Mae angen gosod yr offer chwyddadwy mewn lleoliad addas, i ffwrdd o goed, waliau a biniau. Dylid ei leoli ar dir gwastad heb dyllau na cherrig rhydd er mwyn lleihau’r siawns y caiff ei droi drosodd gan wynt tra bydd plant yn ei ddefnyddio.

Rhaid ichi sefydlu’r modd y caiff yr offer chwyddadwy ei bweru, h.y. o soced y prif gyflenwad trydan neu eneradur. Rhaid i geblau a chysylltiadau trydanol gael eu graddio’n addas ar gyfer defnydd yn yr awyr agored. Gall ceblau fod yn berygl baglu os nad ydynt wedi’u gorchuddio’n ddigonol. Unwaith y bydd yr offer chwyddadwy wedi’i osod, fe’ch cynghorir i wirio cyflwr y ceblau yn weledol, am unrhyw dâp trydanol, gwifrau agored a phlygiau sydd wedi torri.

Yn unol â Llawlyfr y Gweithredwyr, rhaid defnyddio peiriant chwythu o’r maint cywir ar gyfer offer chwyddadwy. Os nad yw’r offer chwyddadwy’n ymddangos yn ddigon hynawf, gallai hyn ddangos bod y peiriant chwythu’n rhy fach, bod y pwythau wedi’u dadwneud neu fod rhwyg yn ffabrig yr offer chwyddadwy.

Dylid darparu matiau diogelwch ar y mannau sy’n arwain i mewn ac allan, a matiau ychwanegol lle mae’r offer chwyddadwy wedi’i osod dan do neu ar arwyneb caled.

O leiaf, dylid ffensio cefn ac ochrau’r offer chwyddadwy fel na all plant gyffwrdd â’r ffan chwythu na’r ceblau trydan. Mae hyn hefyd yn lleihau’r risg y bydd pobl yn baglu dros y stanciau angori metel.

Rhaid i offer chwarae chwyddadwy gael o leiaf chwe phwynt angori, ac mae’n hanfodol fod POB pwynt angori a osodir gan y gwneuthurwr ar bob lefel yn cael eu defnyddio waeth beth fo’r tywydd. Ar gyfer defnydd dan do, rhaid angori’r offer chwyddadwy er mwyn iddo gadw’i siâp, ei atal rhag symud a’i atal rhag troi drosodd. Lle na ellir defnyddio stanciau daear, fe’ch cynghorir i ddarllen Llawlyfr y Gweithredwyr er mwyn sefydlu dull sydd yr un mor effeithiol ar gyfer angori’r offer chwyddadwy (fel bagiau tywod, pwysau neu osodiadau daear). Mae Grŵp Arweiniol PIPA yn cefnogi barn swyddogol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), sef:

Os na ellir defnyddio stanciau daear oherwydd yr arwyneb (e.e. tarmac), defnyddiwch falast gyda phwyntiau angori sy’n pwyso o leiaf 163 kg yr un, ynghyd â gosodiadau addas i atodi’r rhaffau tynhau.

Mae yna ddau fath o angorau:

  1. Angorau daear i ddiogelu’r sylfaen chwyddadwy yn dynn, fel bod y gwynt yn cael ei atal rhag mynd oddi tano ac achosi codiad;
  2. Angorau lefel-uchel i gefnogi’r rhaffau tynhau â digon o densiwn fel eu bod yn cadw siâp yr offer chwyddadwy.

https://www.hse.gov.uk/entertainment/fairgrounds/inflatables.htm

Cyflymder y gwynt

Rhaid i’r cyflenwr ystyried cyflymder y gwynt yn yr asesiad risg. Dylai’r cyflenwr ddefnyddio anemomedr yn rheolaidd i fesur cyflymder y gwynt er mwyn gwybod pan fydd amodau’n dirywio i’r pwynt lle mae’n anniogel i ddefnyddio’r offer chwarae chwyddadwy. Mae’r diwydiant yn argymell cadw at gyflymder gwynt uchaf o 30-38 cilomedr yr awr (19-24 milltir yr awr), Cryfder 5 ar Raddfa Beaufort.

Gwybodaeth Weithredol

Dylai’r cyflenwr hefyd roi gwybodaeth weithredol i chi, h.y. yr hyn y dylid/na ddylid ei wneud:

  • Uchafswm nifer y plant a ganiateir ar unrhyw un adeg mewn perthynas ag uchder
  • Ni chaniateir ymddygiad gwael wrth ddefnyddio’r castell
  • Ni ddylai plant ddringo ar waliau’r cestyll bownsio
  • Dylid tynnu esgidiau, byclau gwregys, sbectol o bosibl, a dylid tynnu allweddi o bocedi
  • Dim bwyd, diodydd na melysion i’w bwyta ar yr offer chwyddadwy
  • Rhaid i’r offer gael ei oruchwylio gan berson dros 18 oed pan fydd yn cael ei ddefnyddio
  • Dylid cynnal ffordd o ddianc rhag tân
  • Dylid sicrhau nad yw sbwriel yn rhwystro aer y chwythwr o ran ei fewnlif neu’i fent
  • Ni ddylid byth tynnu’r gwynt o offer pan gaiff ei ddefnyddio
  • Storio tanwydd a ddefnyddir ar gyfer generaduron yn ddiogel mewn cynwysyddion cymeradwy.

Gwiriadau Dyddiol

Cyn y defnydd cyntaf bob dydd, dylid gwirio’r offer chwyddadwy a’r ardal gyfagos i sicrhau ei fod wedi’i angori’n ddigonol o hyd, ac nad oes unrhyw ddifrod i’r rhaffau sy’n ei glymu. Dylid cynnal archwiliadau gweledol o’r chwythwr a’r ceblau i sicrhau nad ydynt wedi’u difrodi na’u rhwystro. Dylai’r ffensys fod yn gyfan wrth ochrau a chefn yr offer chwyddadwy ac unrhyw eneraduron a ddefnyddir. Dylid sicrhau bod matiau yn eu lle wrth y mynedfeydd a’r allanfeydd.

Cysylltwch â Ni