Ar-lein, Mae'n arbed amser
Marchnadoedd Ffermwyr
Dydd Gwener cyntaf bob mis, ar Stryd Fawr Merthyr Tudful.
Yn ôl yr arfer cewch gynnyrch ffres o safon sydd wedi ei dyfu, ei fagu neu ei wneud o fewn cwmpas 50 milltir.
Wrth brynu yn y Farchnad Ffermwyr byddwch yn cefnogi Ffermwyr Cymru ac yn helpu i yrru'r economi leol. Mae llawer o'r bwyd sydd yn y farchnad yn enillwyr gwobrau Gwir Flas Cymru sy'n cydnabod y gorau o fwyd Cymru.
Rhestr Masnachwyr:
- Andcrafted - gemwaith wedi ei wneud â llawn gan Andrea
- Coity Bach - porc lleol
- Cig Mynydd Cymru - cig oen ac eidion ffres o Gymru
- Tai Gwydr Cyfarthfa: Llysiau ffres a phlanhigion
- Craig's Veg Stall - Masnachwr gwadd yn gwerthu llysiau a ffrwythau tymhorol o Brydain
- Masnach Deg Merthyr - Detholiad o gynnyrch Masnach Deg, yn cynnwys siocled, grawnfwyd a bisgedi. Te a choffi am ddim
- Groundwork - gwaith pren cynaliadwy
- House of the Rising Bun - Bara arbennig o Henffordd.
- Oriel Lee Price - Printiau a chardiau o dirluniau lleol a phobl ar gael yn syth gan yr arlunydd
- Newman's Homemade Preserves - Jam, siytni, sawsus a phicls.
- Cakes Couture - cacennau bach, gateaux a chacennau hufen
- Wyau Trecastell/Trecastle Eggs - Wyau iâr a hwyaden ffres
Os ydych yn magu, tyfu neu'n gwneud eich bwyd eich hun, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Rydym yn chwilio am fasnachwyr newydd i ymuno â ni sy'n gallu cyflenwi rhywbeth nad ydym yn ei gynnig ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd mae gennym le i:
- Ffrwythau
- Cacennau
- Llysiau
- Pysgod