Ar-lein, Mae'n arbed amser
Marchnadoedd cyngor a gwybodaeth
Mae tair marchnad yn gweithredu'n rheolaidd yng Nghanol y Dref, sef:
- Marchnad Dan Do Santes Tudful
- Marchnad Stryd M&B
- Marchnad Ffermwyr
Marchnad Dan Do Santes Tudful
Mae'r farchnad dan do hon yn cael ei rheoli gan Ganolfan Siopa Santes Tudful,
ac mae yn neuadd y farchnad ar lawr cyntaf y ganolfan siopa. Mae amrywiaeth eang o stondinau yn y farchnad yn cynnwys deli, pobydd, gemydd, haearnwerthwr, caffi a llawer mwy.
Ar agor Llun - Sadwrn 9am-5.15pm
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Julie Calderbank (01685) 384468
Marchnad Stryd M&B
Mae'r farchnad stryd yn cael ei gweithredu gan M&B Markets bod dydd Mawrth a dydd Sadwrn yn y Stryd Fawr a Sgwâr y Farchnad. Mae'r farchnad yn cynnig dewis ardderchog o nwyddau a gwasanaethau yn cynnwys ffrwythau, llysiau, cig, dillad, matiau a llawer mwy.
Ar agor Mawrth a Sadwrn 9am – 5.30pm (cau am 5pm yn y gaeaf)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marchnad M&B:
Ffon: 07785 948636
Marchnad y Ffermwyr
Dyma farchnad sy'n cael ei rhedeg gan y cyngor ac mae'n agored i gynhyrchwyr bwyd. Rhaid i'r holl gynnyrch gael ei dyfu, ei fagu neu fod â gwerth ychwanegol a rhaid iddo gael ei gynhyrchu o fewn cwmpas o 50 milltir. Mae hi'n farchnad fach gwerthu uniongyrchol ar y Stryd Fawr ac mae'n gyfyngedig i un cynhyrchydd o bob eitem. Mae eitemau i'w gwerthu'n cynnwys cig oen, caws, cacennau, byrbrydau llysieuol a llyfrau.
Ar agor ar ddydd Gwener cyntaf bob mis 10am – 2.00pm
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rheolwr Canol y Dref ar y manylion isod.
Marchnadoedd a ffeiriau sydd ar ddod
Marchnad Stryd
Bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn o 9yb tan 5.30yp (5yp yn y gaeaf) ar y Stryd Fawr, Merthyr Tudful.
Marchnad y Ffermwyr
Dydd Gwener cyntaf pob mis (heblaw am fis Ionawr) o 10yb tan 2yp ar y Stryd Fawr, Merthyr Tudful