Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad Gwefan 20 milltir yr awr

Diweddariad Gwefan 20 milltir yr awr

Gofynnwyd i bob cyngor yng Nghymru gasglu adborth gan breswylwyr ynghylch terfynau cyflymder 20 milltir yr awr er mwyn iddynt allu asesu’r wybodaeth honno yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru. Mae’r canllawiau’n ymwneud â gosod terfynau cyflymder o 30 milltir yr awr ar ffyrdd cyfyngedig ac ar ffyrdd eraill sydd â therfyn cyflymder o 20 milltir yr awr. Cyhoeddwyd y canllawiau diwygiedig fis Gorffennaf. Derbyniwyd gennym 53 sylw unigol. Roedd y sylwadau hyn yn berthnasol i ugain hewl ac mae’r rhestr honno isod:

  1. Ystâd Ddiwydiannol Pant
  2. Heol Pant i Bontsticill
  3. A4054 – Heol Caerdydd Treharris/Mynwent y Crynwyr
  4. Aberfan i Droed-y-Rhiw
  5. A4054 – Stryd Plymouth
  6. A4054 – Ffatri Hoovers gynt i’r orsaf betrol
  7. A4054 – Cylchfan Caedraw i’r hewl sy’n mynd at y bont
  8. Rhodfa’r Coleg – Coleg Merthyr/y ffordd gylchdroadol i garej Vauxhall
  9. A4054 – Cylchfan Caedraw i gylchfan Garej Vauxhall
  10. Stryd Bethesda
  11. Heol Aberhonddu – Eglwys y Santes Fair i dafarn y Cyfarthfa Arms
  12. Heol Cyfarthfa – Cloc y Pandy i’r Eglwys Formonaidd
  13. Pen cylchfan Galon Uchaf i Rodfa Deg
  14. Cylchfan Penydarren i Bontmorlais
  15. Rhan uchaf Heol Abertawe
  16. Heol Abertawe
  17. Winchfawr
  18. A4054 -Stryd Fawr Cefn Uchaf
  19. A4054 – Stryd Fawr Cefn yn ei chyfanrwydd
  20. Yr A4054 i droi’n ôl yn ei chyfanrwydd ac eithrio y tu allan i ysgolion

Mae hi’n bwysig nodi nad dyma yw terfyn y broses, a bod nifer o gamau sydd angen eu dilyn dros y misoedd nesaf. Bydd rhagor o gyfleoedd i chi gael dweud eich dweud.

Mae hefyd yn bwysig nodi nad allwn weithredu ar unrhyw sylwadau a dderbyniwyd gennym sy’n gysylltiedig â’r polisi’n gyffredinol (pa un ai ydynt o blaid neu yn erbyn) – am mai materion i Lywodraeth Cymru yw'r rheini. 

Y Camau nesaf
Byddwn yn adolygu’r holl sylwadau a dderbyniwyd gennym ac yn eu hasesu yn erbyn y canllawiau diwygiedig. Wrth benderfynu a ddylai fod gan heol derfyn cyflymder uwch mae’n rhaid i ni fod yn sicr na fydd unrhyw gynnydd o’r fath yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch y ffordd. Bydd heolydd lle na fyddai terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr yn addas yn parhau gyda’r terfyn amser cyfredol o 20 milltir yr awr. Byddwn yn cynhyrchu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) ar gyfer unrhyw heol a awgrymir gan y canllawiau diwygiedig y gallai terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr fod yn addas ar ei chyfer, mae hwn yn broses cyfreithiol sy’n rhaid i ni ei dilyn os ydym am addasu’r terfyn cyflymder. Bydd pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn gorfod mynd at ymgynghoriad cyhoeddus, lle gall breswylwyr ddangos eu cefnogaeth neu leisio eu gwrthwynebiad. Byddwn yn cyhoeddi manylion unrhyw newidiadau ar ein gwefan.

Bydd rhagor o ddiweddariadau ar gael unwaith i ni gwblhau ein hadolygiad.

Cysylltwch â Ni