Ar-lein, Mae'n arbed amser

Costau Parcio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gyfrifol am sawl Maes Parcio a leolir mewn mannau cyfleus o gwmpas Canol y Dref sy’n cynnwys mannau parcio i’r anabl.

Gallwch ddod o hyd i leoliadau’r Meysydd Parcio ar ein Map Lleoliadau Maes Parcio

Costau Parcio

Dydd Llun i Ddydd Gwener

  • 70p am 1 awr
  • £1.50 am hyd at 3 awr
  • £3.50 y dydd
  • £14.00 yr wythno

Dydd Sadwrn

  • £1 drwy’r dydd

Dydd Sul a Gwyliau Banc

  • Am ddim
Ffyrdd o Dalu

Arian parod

Yn y Peiriannau Talu ac Arddangos. Mae peiriannau’n derbyn ceiniogau £2, £1, 50c, 20c, 10c a 5c.

Rhaid i bob gyrrwr (gan gynnwys deiliaid bathodyn anabl) sicrhau fod tocyn parcio dilys yn cael ei arddangos ar ddashfwrdd ei gerbyd. Mae deiliaid tocynnau AM DDIM ar gael o’r Ganolfan Ddinesig.

Trwydded Parcio

  • £38 (un mis)
  • £114 (trwydded chwarterol)
  • £350 (tocyn blwyddyn y gellir talu amdano bellach yn awr gyda 12 taliad misol)

 

Gellir defnyddio tocyn tymor mewn unrhyw faes parcio yn y Fwrdeistref.

Gellir lawrlwytho cais o’n Tudalen Trwyddedau Parcio. Gellir talu drwy’r Adran Dalu.

Canslo Trwydded

I ganslo Trwydded, ffoniwch 01685 725000.

Wrth ganslo, rhaid i chi ddychwelyd eich trwydded i’r Ganolfan Ddinesig.

Gallwch wneud hyn drwy ymweld â’r Ganolfan Ddinesig yn bersonol, neu gallwch ei bostio’r drwydded i’r

Siop Un Stop
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Canolfan Ddinesig
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN