Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwyddedau Parcio Parking Permits (Trwyddedau Preswyl, Academaidd a Thymhorol)

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno sawl cynllun trwydded parcio-ar-y-stryd ac mae’r cynlluniau hyn wedi eu cadw ar gyfer preswylwyr sy’n byw yn agos at yr ardaloedd hynny.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys trwyddedau parcio 24 awr yn ogystal â’r cyfrifoldeb o orfodi’r cynlluniau hyn - sy’n gyfrifoldeb i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. O ganlyniad, gall unrhyw gerbyd a ganfyddir wedi parcio yn y lleoliadau hyn heb drwydded ddilys ddisgwyl derbyn Hysbysiad Tâl Cosb.

Mae’r trwyddedau hyn yn costio £34 yr un. Mae yno gyfyngiadau i’r nifer a’r math o drwyddedau sydd ar gael ac mae’r rhain yn amrywio yn ôl ardal. Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch pwy sydd â hawl i’r trwyddedau hyn, yn y ffurflen gais.

Er mwyn gwneud cais am drwydded breswyl / ymwelwyr a wnewch chi sicrhau bod gennych y dogfennau canlynol ar ffurf electronig os gwelwch yn dda:

Trwydded i Breswylwyr

  • Tystiolaeth mai chi yw perchennog y cerbyd (llyfr cofnodion V5)
  • Tystiolaeth eich bod yn preswylio yma (bil treth cyngor, dogfen yswiriant neu fil ar gyfer gwasanaethau dŵr, ynni ac ati, sydd wedi ei ddyddio o fewn y tri mis diwethaf)

Trwydded i Ymwelwyr

  • Tystiolaeth eich bod yn preswylio yma (bil treth cyngor, dogfen yswiriant neu fil ar gyfer gwasanaethau dŵr, ynni ac ati wedi ei ddyddio o fewn y tri mis diwethaf)

Unwaith bod gennych y dogfennau perthnasol, gwasgwch y ddolen uchod er mwyn creu cyfrif gyda’ch e-bost personol. Bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost cyn mynd ymhellach, os nad ydych wedi derbyn e-bost i’ch mewnflwch gwiriwch eich ffolder spam/ ysbwriel.

Wedi i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost, mewn-gofnodwch i’r system a chwblhewch y meysydd perthnasol, unwaith i chi arbed y newidiadau hyn, gwasgwch y botwm sy’n dweud Cais am Drwydded (neu Permit Application) a dewiswch y math o drwydded yr hoffech o’r fwydlen sy’n ymddangos. 

Unwaith i chi gwblhau eich cais, llwytho’r dogfennau perthnasol i'r system ac anfon eich cais gyda’r dogfennau, byddant yn cael eu gwirio gan y Tîm Trwyddedau Parcio. Unwaith iddynt gael eu gwirio, bydd cynnig yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost cofrestredig a bydd modd i chi dalu am y drwydded. Unwaith byddwn wedi derbyn y taliad, bydd y drwydded yn ddilys.

Ceisio am Drwydded Academaidd neu Dymhorol

Os ydych yn gwneud cais am Drwydded Academaidd a wnewch chi sicrhau bod gennych chi’r ddogfen ganlynol ar ffurf electronig os gwelwch yn dda:

  • Eich Cerdyn Adnabod Personol ar gyfer y Coleg

Unwaith bod gennych y dogfennau perthnasol, gwasgwch y ddolen uchod er mwyn creu cyfrif gyda’ch e-bost personol. Bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost cyn mynd ymhellach, os nad ydych wedi derbyn e-bost i’ch mewnflwch gwiriwch eich ffolder spam/ ysbwriel.

Wedi i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost, mewn-gofnodwch i’r system a chwblhewch y meysydd perthnasol, unwaith i chi arbed y newidiadau hyn, gwasgwch y botwm sy’n dweud Cais am Drwydded (neu Permit Application) a dewiswch y math o drwydded yr hoffech o’r fwydlen sy’n ymddangos. 

Unwaith i chi gwblhau eich cais, llwytho’r dogfennau perthnasol i'r system ac anfon eich cais gyda’r dogfennau, byddant yn cael eu gwirio gan y Tîm Trwyddedau Parcio.

Unwaith iddynt gael eu gwirio, bydd cynnig yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost cofrestredig a bydd modd i chi dalu am y drwydded. Unwaith byddwn wedi derbyn y taliad, bydd y drwydded yn ddilys.

Gellir talu am Drwydded Academaidd o flaen llaw am gost o £230 cyn neu ar y 1af o Fedi; neu gellir talu’n fisol (yn barhaus) am gost o £24.20.

Dalier sylw os gwelwch yn dda: ar y cyntaf o bob mis yn unig y gellir cychwyn y taliadau misol e.e. y 1af o Fedi, 1af o Hydref, 1af o Dachwedd ac ati. Bydd pob trwydded yn dod i ben ar y 30ain o Fehefin.

Os hoffech gael trwydded ddilys ar y 1af o Fedi, gellir gwneud cais pythefnos cyn dechrau’r tymor academaidd.

Trwydded Dymhorol

Os ydych yn gwneud cais am Drwydded Dymhorol a wnewch chi sicrhau bod gennych garden gredyd/ ddebyd gyda chi wrth i chi ymgeisio.

Gellir talu am Drwydded Dymhorol o flaen llaw am gost o £350 neu gellir talu’n fisol (yn barhaus) am gost o £29.16.

Gwasgwch y ddolen uchod er mwyn creu cyfrif gyda’ch e-bost personol. Bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost cyn mynd ymhellach, os nad ydych wedi derbyn e-bost i’ch mewnflwch gwiriwch eich ffolder spam/ ysbwriel.

Wedi i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost, mewn-gofnodwch i’r system a chwblhewch y meysydd perthnasol, unwaith i chi arbed y newidiadau hyn, gwasgwch y botwm sy’n dweud Cais am Drwydded (neu Permit Application) a dewiswch y math o drwydded yr hoffech o’r fwydlen sy’n ymddangos. 

Unwaith iddynt gael eu gwirio, bydd cynnig yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost cofrestredig a bydd modd i chi dalu am y drwydded. Unwaith byddwn wedi derbyn y taliad, bydd y drwydded yn ddilys.

Wedi i chi gwblhau’r cais am drwydded bydd angen i chi dalu amdani. Unwaith i ni dderbyn y taliad bydd y drwydded yn ddilys.

Os oes gennych ymholiad sy’n gysylltiedig â thrwyddedau parcio gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01685 725000 neu drwy anfon e-bost one.stopshop@merthyr.gov.uk

Os hoffech wybodaeth ynghylch y gwahanol gynlluniau gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01685 725000 neu drwy anfon e-bost traffic.management@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni