Ar-lein, Mae'n arbed amser
Lleoliadau Cyhoeddus ar gyfer Gwerfru Cerbydau Trydan
Lle mae’n pwyntiau gwefru cerbydau trydan presennol?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gosod pwyntiau gwefru yn y lleoliadau canlynol:
Maes Parcio | Cod Post | 22kw | 7kw | Google map (llun) |
Google map (maio) |
---|---|---|---|---|---|
Stryd Fictoria | CF48 3RN | 2 | Fictoria llun | Fictoria maio | |
Canolfan Hamdden Rhydycar | CF48 1UT | 4 | Rhydycar llun | Rhydycar maio | |
Trelewis | CF46 6AB | 2 | Trelewis llun | Trelewis maio | |
Stryd Perrott | CF46 5ET | 2 | Perrott llun | Perrott maio | |
Pontmorlais | CF47 8UN | 2 | Pontmorlais llun | Pontmorlais maio | |
Orbit Centre | CF48 1DL | 2 | Orbit llun | Orbit maio | |
Castell | CF47 8JD | 4 | Castell llun | Castell maio | |
Stryd Gilar | CF47 8DP | 2 | Gilar llun | Gilar maio | |
Santes Tudful | CF48 1AR | 2 | 4 | Santes Tudful llun | Santes Tudful maio |
I gael rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin sy'n ymwneud â gweithrediad y Pwyntiau Gwefru Trydan hyn, ewch i wefan gweithredwyr y system yn: Kerb Connected - Cwestiynau Cyffredin
Neu dilynwch y ddolen i wefan Connected Kerb https://www.connectedkerb.com/contact-us/ Neu ffoniwch yn uniongyrchol ar: 0800 0291 696
Mae rhagor o wybodaeth am leoliadau pwyntiau gwefru y Fwrdeistref Sirol ar gael ar Fap Zap
Gwefru Trydan
Ym mis Ebrill 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan, gan nodi’r cynlluniau ar gyfer dyfodol gwefru ceir trydan a cherbydau yng Nghymru.
Mae'r Cyngor yn cydnabod y rhan y mae'n rhaid iddo ei chwarae i gefnogi'r strategaeth hon drwy annog defnydd cerbydau trydan ac o ganlyniad mae'n hwyluso gosod nifer o bwyntiau gwefru ledled y Fwrdeistref gyda'r nod o roi hyder i drigolion newid i gerbydau trydan.
Darpariaeth Gwefru Cyhoeddus
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn canolbwyntio ymdrechion i hwyluso gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan mewn nifer o leoliadau parcio cyhoeddus sy'n eiddo i'r Cyngor ar draws y Fwrdeistref Sirol yn agos at ardaloedd preswyl.
Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) a gweithredwyr system arobryn Connected Kerb (CK), mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid a chwblhau cam cyntaf rhaglen osod sydd bellach yn gweld 26 o bwyntiau gwefru cyflym rhwng 7kw a 22kw yn cael eu gosod ac yn gwbl weithredol mewn 9 lleoliad gwahanol (a restrir yn y tabl uchod).
Mae'r rhaglen yn rhan o gynllun ehangach sy'n cael ei gyflawni ar draws ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o 10 awdurdod lleol ac mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Connected Kerb i ddatblygu ail gam y gosodiadau, sy'n cynnwys 28 pwynt gwefru cyflym 7kw i 22kw at ddefnydd cyhoeddus mewn 9 lleoliad newydd arfaethedig.
Darpariaeth Gwefru Preswyl ar y Stryd
Hyd nes y bydd y gyfraith bresennol e.e. Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 yn cael ei diwygio, a datblygu polisi cenedlaethol clir, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gefnogi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan dan berchnogaeth breifat ar, gerllaw neu dros y briffordd gyhoeddus. Er budd diogelwch priffyrdd ac o ran cynnal a chadw yn y dyfodol, nid yw'r Awdurdod Priffyrdd yn gallu caniatáu gosod ceblau (hyd yn oed gan defnyddio grid troshaen neu gilfachog ar draws priffordd gyhoeddus neu lwybr troed) na sianelu ceblau o dan y llwybr troed. Mae hyn oherwydd materion atebolrwydd cyhoeddus, gan gynnwys y risg o beryglon teithio a materion diogelwch trydanol mwy cymhleth pan gânt eu defnyddio.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch Cam 2 y rhaglen gosod gwefru cerbydau trydan.