Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun y Bathodyn Glas

Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn fenter genedlaethol a’i fwriad yw darparu consesiynau i bobl gymwys fel y gallant barcio’n agos at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae angen iddynt eu defnyddio. Drwy hynny, gallant wella eu ffordd o fyw, eu hannibyniaeth a’u rhyddid i ddewis.

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas eich hun, neu gall perthynas wneud cais ar eich rhan.

Nid oes rhaid i berson yrru i wneud cais am fathodyn glas. Mae’r bathodyn ar gyfer yr unigolyn a gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw gar y mae’r unigolyn yn teithio ynddo, fel gyrrwr neu deithiwr.

Mae angen ichi wneud cais newydd am Fathodyn Glas bob 3 blynedd neu cyn y dyddiad dirwyn-i-ben os yn gynt. Ni fydd yn cael ei adnewyddu’n awtomatig.

Mae croeso i chi wneud cais neu adnewyddu’ch cais ar-lein: www.gov.uk/apply-blue-badge

Os oes angen, gallwch hefyd anfon dogfennau ategol trwy e-bost. Anfonwch nhw i blue.badges@merthyr.gov.uk

Os oes angen i chi siarad â rhywun, ffoniwch 01685 725000

Pwy sy’n gymwys i gael Bathodyn Glas?

Yng Nghymru, gall unigolyn wneud cais am Fathodyn Glas drwy un o pedwar chategori:

Byddwch yn teilyngu Bathodyn Glas yn awtomatig trwy fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • Rydych wedi’ch eich cofrestru’n ddall (nam difrifol ar y golwg)
  • Rydych yn derbyn Cydran Symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl ar Gyfradd Uwch
  • Rydych yn derbyn Taliad Annibyniaeth Personol ar lefelau canlynol y disgrifyddion a restrir
  • Cynllunio a Dilyn Taith - 12 pwynt
  • Symud o Gwmpas - 8 pwynt neu ragor
  • Rydych yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Gwnaethoch dderbyn cyfandaliad budd-dal o dan Gynllun (Iawndal) y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn oddi fewn i lefelau Tariff 1-8 ac rydych wedi cael eich asesu a’ch ardystio gan Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr o fod â nam parhaol a sylweddol sy’n achosi anallu i gerdded neu drafferth sylweddol wrth gerdded
  • Rydych yn derbyn Tariff 6 ar gyfer Anhwylder Meddwl Parhaol o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.

Rhaid i chi gyflwyno’r ddogfennaeth briodol i ddangos eich bod yn derbyn unrhyw un o’r uchod.

Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf uchod, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys o dan y categorïau canlynol gan ddibynnu ar y wybodaeth a rowch i gefnogi’ch cais:

  • Mae gennych nam parhaol a sylweddol sy’n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu’ch bod yn cael cryn drafferth wrth gerdded
  • Os oes nam gwybyddol gan berson ac os nad yw’n gallu cynllunio neu ddilyn unrhyw daith i’r graddau bod angen goruchwyliaeth arno
  • Mae gennych nam yn y ddwy fraich
  • Plant iau na 3 oed â chyflwr meddygol sy’n golygu bod rhaid iddynt fod ag offer meddygol swmpus bob amser - offer na ellir mo’i gario o gwmpas gyda’r plentyn heb anhawster mawr

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi’ch cais gan weithiwr iechyd proffesiynol perthnasol

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Bathodyn Glas os na allwch gerdded neu os ydych yn cael anhawster sylweddol i gerdded a bod gennych anabledd dros dro sy’n debygol o bara am y 12 mis nesaf.

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi’ch cais gan weithiwr iechyd proffesiynol perthnasol.

Rhoddir bathodynnau sefydliadol i sefydliadau sydd â cherbydau i gludo pobl anabl a fyddai eu hunain yn gymwys i gael bathodyn. Rhoddir bathodyn i sefydliad os oes ganddo gerbydau sydd wedi’u trwyddedu o dan ddosbarth trethiant Cerbyd Teithwyr Anabl (DPV). Rhaid i’r cais gael ei wneud gan reolwr/dirprwy reolwr y sefydliad a gall wneud y cais ar-lein drwy wefan GOV.UK. Dan bob amgylchiad, bydd bathodynnau’n cael eu rhoi i’r sefydliad neu’r adran ac nid i unigolion a enwir.

Os mai nifer cymharol isel o bobl sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster ar gyfer Bathodyn yn eich sefydliad, byddai’n well i’r bobl anabl eu hunain wneud cais am Fathodynnau yn hytrach na chael un ar gyfer y sefydliad. Mae hyn wedyn yn caniatáu i’r deiliaid ddefnyddio’u bathodynnau mewn unrhyw gerbyd y maent yn teithio ynddynt.

Os yw’r cais ar ran sefydliad, rhaid talu ffi o £10 am bob bathodyn.

Gwneud Cais


Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau. Ceir rhagor o fanylion yn Apply for or renew a Blue Badge - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae angen i bob ymgeisydd ddarparu prawf adnabod, prawf o gyfeiriad a llun maint pasbort, yn ogystal â thystiolaeth ategol sy’n berthnasol i feini prawf eich cais. Cyfeiriwch at y nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer y ddogfennaeth dderbyniol.

Byddwch yn wyliadwrus o sefydliadau sy’n cynnig cymorth

Rydym yn ymwybodol o sefydliadau sy’n cynnig cymorth i gwblhau a chyflwyno ceisiadau Bathodyn Glas. Mae’r sefydliadau hyn yn codi ffioedd sylweddol am eu cymorth.

Nid oes angen i breswylwyr ddefnyddio’r sefydliadau hyn i wneud cais am Fathodyn Glas. Defnyddiwch y gwasanaeth ymgeisio ar-lein rhad ac am ddim ar www.gov.uk/apply-blue-badge, neu ffoniwch un o’n swyddogion ar 01685 725000 neu yrru e-bost i blue.badges@merthyr.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch cefnogi.

Cwestiynau Cyffredin

Cysylltwch â’r Adran Bathodyn Glas ar 01685 725000 a gofynnwch i’r staff anfon copi papur o’r cais atoch.

Gallwch wneud apwyntiad am gymorth gan ymgynghorydd, ond gallai hynny oedi’r broses ymgeisio. Ffoniwch 01685 725000 i drefnu apwyntiad.

Os caiff eich bathodyn ei golli neu’i ddifrodi, mae’n bwysig ein bod yn archebu bathodyn newydd i chi ac yn canslo’r bathodyn coll. Codir tâl o £10 am fathodyn newydd.

I gael bathodyn newydd yn lle’r un sydd wedi’i ddwyn, bydd angen ichi ddarparu Rhif Cyfeirnod Trosedd sydd ar gael trwy gysylltu ag 101, sef tîm difrys yr heddlu. Ni fydd tâl am y bathodyn os yw wedi’i ddwyn.

BATHODYN GLAS AR GOLL - CAIS AM UN NEWYDD YN EI LE

Gall ceisiadau gymryd hyd at 8 wythnos i’w prosesu. Rydym yn eich cynghori i wneud cais hyd at 8 wythnos cyn eich dyddiad adnewyddu.

Defnyddiwch Fathodyn dilys hyd at y dyddiad dirwyn-i-ben. Rhaid i chi barhau i ddefnyddio’ch Bathodyn dilys a defnyddio’r Bathodyn newydd ddim ond o’i ddyddiad cychwyn.

Unwaith y bydd y cais wedi’i gymeradwyo a’r dystiolaeth ategol o hunaniaeth, preswyliad a chymhwysedd wedi’i gwirio, bydd y Bathodyn yn cael ei archebu a byddwch yn ei dderbyn o fewn 10 niwrnod gwaith.

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth “dweud wrthym unwaith” sy’n cael ei gynnig wrth gofrestru marwolaeth. Fel arall, e-bostiwch blue.badges@merthyr.gov.uk gydag enw’r person, ynghyd â’i ddyddiad geni, rhif Bathodyn Glas (sef chwe nod cyntaf y rhif hir ar y Bathodyn), dyddiad y farwolaeth ac enw’r person sy’n rhoi gwybod am y sefyllfa.

Os oes gennych Fathodyn Glas, rhowch wybod i ni os bydd unrhyw un o’r canlynol yn newid:

  •  Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt

Sylwch: gan fod y Bathodyn yn cael ei roi i unigolyn, nid oes angen dweud wrthym os byddwch yn newid eich car.

Nid oes proses apelio statudol ar gael yn erbyn penderfyniad a wnaed gan awdurdod lleol ynghylch cais am Fathodyn Glas.

Rydym yn dilyn canllawiau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ond nid oes ganddi’r pŵer i ymyrryd wrth asesu achosion unigol.

Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad i beidio â dyfarnu Bathodyn Glas i chi a bod gennych wybodaeth neu dystiolaeth na roddwyd gyda’ch cais gwreiddiol, dylech eu hanfon atom o fewn un mis calendr i ddyddiad y llythyr a anfonwyd atoch i’ch hysbysu o’r penderfyniad. Byddwn yn edrych eto ar y penderfyniad gan ystyried y dystiolaeth ychwanegol.

Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad a wnaed i beidio â dyfarnu Bathodyn Glas i chi ond nad oes gennych unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol yr hoffech eu cyflwyno, byddwn yn ailystyried eich cais ar ofyniad ysgrifenedig.

Na, mae ceisiadau’n cael eu hasesu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ond mae’r bathodynnau’n cael eu cynhyrchu gan gwmni allanol ac yn cael eu postio’n uniongyrchol ganddyn nhw.

Byddwch yn derbyn cyfarwyddyd ynglŷn â pharcio wrth dderbyn eich Bathodyn Glas yn y post.

Rhaid ichi archwilio bwrdd arddangos yr ardal lle rydych chi’n parcio i wirio’r taliadau penodol yno.

Gallwch chi gael gwared ar y Bathodyn trwy ei dorri/rhwygo eich hun. Fodd bynnag, os na allwch wneud hynny, gallwch ei ddychwelyd atom ni i’w waredu ar eich rhan.